BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Ffion Erin Owen

Llanaelhaearn, Gwynedd

Ffion Erin Owen Mae Ffion Erin Owen sy'n hanu o Chwilog, ger Pwllheli, wedi treulio ei phlentyndod ar y fferm deuluol yn Llanaelhaearn. Mae ganddi angerdd brwd dros dda byw a bywyd gwledig. Wedi iddi gwblhau ei harholiadau TGAU yn ddiweddar, mae’n paratoi ar gyfer parhau gyda’i haddysg yng Ngholeg Meirion Dwyfor, gan hefyd fagu profiad pellach drwy weithio’n lleol ac ar y fferm.

Mae Ffion wedi datblygu sgiliau ffermio ymarferol ers iddi fod yn ifanc iawn, gan weithio gyda defaid, gwartheg a cheffylau, ynghyd â rheoli ei diadell ei hun o ddefaid brith yr Iseldiroedd. Ochr yn ochr â gwaith ar y fferm, mae hi wedi magu profiad mewn rolau sy’n wynebu cwsmeriaid yn ei gwaith mewn caffi lleol, a gwaith blaenorol mewn atyniad ymwelwyr ar fferm, gan ddatblygu sgiliau cyfathrebu, trefnu a gwaith tîm.

Fel aelod gweithgar o’r Ffermwyr Ifanc, mae Ffion wedi cymryd rhan mewn ystod eang o gystadlaethau, gan gynnwys siarad cyhoeddus a barnu stoc, gan sicrhau llwyddiant ar lefel leol. Mae hi hefyd yn weithgar gyda digwyddiadau cymunedol, gan wirfoddoli’n rheolaidd mewn digwyddiadau a chynorthwyo mentrau lleol.

Gan edrych tua’r dyfodol, mae Ffion yn awyddus i ddilyn gyrfa o fewn y sector amaeth, gyda diddordeb penodol mewn cynorthwyo ffermwyr mewn rolau cynghori neu broffesiynol. Trwy Raglen yr Ifanc, mae’n gobeithio ehangu ar ei gwybodaeth gan hefyd barhau i adeiladu ar ei chefndir amaethyddol cadarn. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.