Heol Senni, Aberhonddu
Mae Abigail Jones yn 18 mlwydd oed ac yn byw yn Heol Senni, Aberhonddu. Mae hi wedi cwblhau Lefel A mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn ddiweddar. Mae’n cyfuno cyflawniad academaidd cadarn gyda phrofiad ffermio ymarferol ar fferm dda byw a thir âr y teulu, lle mae’n gweithio gyda gwartheg Limousin, cnydau tir âr ac yn rheoli ei diadell ei hun o ddefaid Texel miwl croes.
Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, mae Abigail wedi ennill profiad eang ar draws y sectorau amaethyddol a milfeddygol, gan gynnwys gweithio gyda Milfeddygon Honddu a chymryd rhan mewn ysgol haf filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi’n gweithio’n rhan amser yn The Welsh International Rarebit Centre, gan ddatblygu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a chyfathrebu cryf.
Fel aelod brwd o’r Ffermwyr Ifanc, mae Abigail wedi cyflawni sawl rôl arweinyddiaeth, ac mae ganddi ddiddordeb penodol mewn siarad cyhoeddus a barnu stoc. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil a rhyngwladol, gan gynnwys taith astudio bioleg i Zanzibar, wedi datblygu ei diddordeb mewn bioamrywiaeth, cadwraeth a systemau bwyd cynaliadwy ymhellach.
Ar ôl sicrhau lle i astudio Bioleg yn y Brifysgol, nod Abilgail yw cyfuno gwyddoniaeth ac amaethyddiaeth i gefnogi dyfodol cynaliadwy a gwydn i amaethyddiaeth yng Nghymru. Trwy Raglen yr Ifanc, mae’n awyddus i ehangu ar ei gwybodaeth, archwilio gwahanol systemau ffermio a datblygu syniadau y gall eu rhoi ar waith o safbwynt academaidd ac o fewn y sector amaeth.