BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Event

Godro Defaid - Dewis ymarferol?

Godro defaid - Dewis ymarferol? Dewch i ddarganfod beth sy'n bosibl
Math o ddigywddiad:
Wyneb yn Wyneb
Dyddiad ac amser:
-
Lleoliad:
Abergwydol

Event overview

Godro defaid - Dewis ymarferol? Dewch i ddarganfod beth sy'n bosibl

Mae Cyswllt Ffermio a Chlwstwr Defaid Llaeth Cymru yn eich gwahodd i ddigwyddiad ymarferol ar y fferm sy'n edrych ar y cyfleoedd cynyddol o fewn y sector defaid llaeth.

Bydd y digwyddiad hwn ar Fferm Abergwydol, ger Machynlleth, yn arddangos sut y gellir datblygu defaid llaeth proffidiol, gan dynnu ar bedair blynedd o waith ymchwil a phrofiad fferm go iawn a gafwyd trwy brosiect Defaid Llaeth Cymru sydd wedi'i gydlynu gan Adran Fwyd Llywodraeth Cymru.

Byddwch yn cael cipolwg ar:

  • Gyfleoedd masnachol a photensial y farchnad
  • Dylunio a rheoli systemau
  • Canfyddiadau gwaith ymchwil a data perfformiad
  • Gwersi ymarferol o fentrau gweithredol

Mae'r digwyddiad yn berffaith i ffermwyr sy'n ystyried arallgyfeirio neu systemau da byw amgen, gyda digon o gyfle i drafod a rhwydweithio.

I neilltuo eich lle, cofrestrwch isod neu cysylltwch â Simon Pitt - simon.pitt@mentera.cymru / 07939 177 935.

 

Os nad ydych wedi eisioes, byddwch angen ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio gan ddefnyddio eich cyfrif One Login GOV.UK newydd. 

Mae canllaw ar sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gael yma: Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login | Farming Connect

Dyddiad ac amser

Dyddiad Amser Lleoliad Cost Speaker Booking details
Mer, 8 Gorff 2026 11yb - 2yp Abergwydol FREE
- Book online

Cyswllt

Enw:
farmingconnect@menterabusnes.co.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh


Beth Sydd Ymlaen

Digwyddiad galw-heibio anffurfiol i ffermwyr gwrdd â’u Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio a ail...

Bydd mynychwyr y gweithdy yn gweithio trwy’r agweddau ar reoli sy’n effeithio ar ffrwythlondeb y...

Mae'r gweithdy lefel uchel hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth ymarferol i dyfwyr i weithredu Rheoli...


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.