- Math o ddigywddiad:
- Wyneb yn Wyneb
- Dyddiad ac amser:
- -
- Lleoliad:
- Abergwydol
Event overview
Godro defaid - Dewis ymarferol? Dewch i ddarganfod beth sy'n bosibl
Mae Cyswllt Ffermio a Chlwstwr Defaid Llaeth Cymru yn eich gwahodd i ddigwyddiad ymarferol ar y fferm sy'n edrych ar y cyfleoedd cynyddol o fewn y sector defaid llaeth.
Bydd y digwyddiad hwn ar Fferm Abergwydol, ger Machynlleth, yn arddangos sut y gellir datblygu defaid llaeth proffidiol, gan dynnu ar bedair blynedd o waith ymchwil a phrofiad fferm go iawn a gafwyd trwy brosiect Defaid Llaeth Cymru sydd wedi'i gydlynu gan Adran Fwyd Llywodraeth Cymru.
Byddwch yn cael cipolwg ar:
- Gyfleoedd masnachol a photensial y farchnad
- Dylunio a rheoli systemau
- Canfyddiadau gwaith ymchwil a data perfformiad
- Gwersi ymarferol o fentrau gweithredol
Mae'r digwyddiad yn berffaith i ffermwyr sy'n ystyried arallgyfeirio neu systemau da byw amgen, gyda digon o gyfle i drafod a rhwydweithio.
I neilltuo eich lle, cofrestrwch isod neu cysylltwch â Simon Pitt - simon.pitt@mentera.cymru / 07939 177 935.
Os nad ydych wedi eisioes, byddwch angen ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio gan ddefnyddio eich cyfrif One Login GOV.UK newydd.
Mae canllaw ar sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gael yma: Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login | Farming Connect
Dyddiad ac amser
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cost | Speaker | Booking details |
|---|---|---|---|---|---|
| Mer, 8 Gorff 2026 | 11yb - 2yp | Abergwydol |
FREE |
- | Book online |
Cyswllt
- Enw:
- farmingconnect@menterabusnes.co.uk
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh
Beth Sydd Ymlaen
Digwyddiad galw-heibio anffurfiol i ffermwyr gwrdd â’u Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio a ail...
Bydd mynychwyr y gweithdy yn gweithio trwy’r agweddau ar reoli sy’n effeithio ar ffrwythlondeb y...
Mae'r gweithdy lefel uchel hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth ymarferol i dyfwyr i weithredu Rheoli...