Rheoli llyngyr yr iau ar y fferm – Profi, nid dyfalu.
Phillipa Page BVSc Bsc MRCVS Flock Health Ltd
Canlyniadau allweddol:
- Defnyddiodd 90% o'r ffermwyr yn y prosiect y prawf llif ochrol a’r asesiad risg ar gyfer eu fferm CYN penderfynu trin ar gyfer haint llyngyr yr iau – arweiniodd hyn at driniaeth wedi'i thargedu ar gyfer llyngyr yr iau, ac o ganlyniad, nid oedd angen UNRHYW driniaethau llyngyr cyn hwrdda.
- Dechreuodd tystiolaeth o haint llyngyr yr iau ym mis Rhagfyr 2025. Roedd y rhan fwyaf o’r ffermydd yn dal i fod yn amhendant neu'n negyddol tan ddiwedd mis Ionawr, a oedd yn arwain at lai o driniaethau, neu ddim triniaethau ar gyfer llyngyr yr iau hyd at fis Ionawr 2026.
- Bydd 90% o'r ffermydd sy'n rhan o'r prosiect yn defnyddio'r prawf llif ochrol ochr yn ochr â'r wybodaeth hon ar gyfer rheoli llyngyr yr iau ar eu fferm yn y dyfodol.
Cefndir:
Mae llawer o ffermydd yn defnyddio triniaeth llyngyr yr iau yn rhan o’r drefn o ddechrau'r hydref fel rhan o'u dulliau rheoli iechyd diadell i atal haint llyngyr yr iau, a all achosi marwolaethau a cholledion o ran cynhyrchiant. Mae cylch bywyd llyngyr yr iau yn dibynnu ar bresenoldeb organeb letyol eilaidd (malwod llaid), cynefin addas o leithder a llaid a'r amodau gorau yn yr haf (gwlyb a chynnes) i ganiatáu i'r llyngyr iau luosi a heintio'r borfa. Felly, mae pob blwyddyn yn wahanol o safbwynt risg. Mae'r prawf llif ochrol (Norbrook) wedi'i ddatblygu i'w ddefnyddio gan ffermwyr ar eu fferm i bennu'r risg llyngyr a'r angen am driniaeth, i leihau triniaethau diangen a gwella amseroedd a chywirdeb y triniaethau.
Diben y gwaith:
- Gwella gwybodaeth am y risgiau penodol i’r fferm o lyngyr yr iau ar gyfer pob ffermwr yn y prosiect.
- Dangos manteision yr egwyddor 'profi, nid dyfalu' trwy ddefnyddio prawf newydd ar y fferm, sef y prawf llif ochrol, i bennu pryd y daeth yr anifeiliaid i gysylltiad â llyngyr yr iau.
- Targedu'r defnydd o driniaeth llyngyr yr iau, gwella manteision y driniaeth honno a lleihau'r costau sy'n gysylltiedig â thriniaethau diangen ac amddiffyn defaid rhag haint llyngyr yr iau.
Yr hyn a wnaed:
Cwblhaodd pymtheg o ffermwyr arolwg cyn y prosiect i ganfod eu profiad cyfredol, yn ogystal â’u gwybodaeth am feysydd risg a rheoli llyngyr yr iau ar eu ffermydd. Gwnaethant hefyd ddarparu map o'u fferm, gan nodi’r ardaloedd risg canfyddedig.
Yna gwnaethant ymuno â gweminar gan Phillipa Page i drafod y prosiect, y prawf llif ochrol (gan ddefnyddio gwaed o bigiad pin yn y glust) a sut i'w ddefnyddio. Yna trafododd Dr Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth y parasit llyngyr yr iau, ei gylch bywyd a thaith gerdded o amgylch fferm rithwir i dynnu sylw at y cynefinoedd penodol sy'n ffafriol i lyngyr yr iau. Yn dilyn hyn, anogwyd ffermwyr y prosiect i ailasesu'r ardaloedd risg ar eu ffermydd ac yna dechrau defnyddio'r prawf llif ochrol ar is-grŵp sentinel o 10 ŵyn benyw mamogiaid stôr a fagwyd ar y fferm. Fe'u hanogwyd i ddefnyddio'r prawf CYN unrhyw driniaethau a thrafod y canlyniadau ar y grŵp WhatsApp gyda Phillipa Page i bennu triniaeth neu ailbrofi.

Ffigur 1: Enghreifftiau o ganlyniadau prawf llif ochrol
Canlyniadau:
Yn yr arolwg cyn y prosiect, dywedodd 86% o ffermwyr nad oeddent yn siŵr o'r risg o lyngyr yr iau i'w fferm a’u bod eisiau gwella eu gwybodaeth am sut i reoli llyngyr yr iau. Byddai 80% o’r ffermwyr yn trin ar gyfer llyngyr yr iau yn yr hydref/gaeaf bob blwyddyn, a byddai 33% o’r ffermwyr bob amser yn rhoi triniaeth llyngyr yr iau cyn hwrdda.
Yn dilyn y prosiect, ni roddwyd unrhyw driniaethau cyn hwrdda, a defnyddiwyd profion i dargedu unrhyw driniaethau yr oedd eu hangen drwy gydol y tymor. Roedd yr amodau sych iawn yn 2025 a'r wybodaeth well o'r ardaloedd risg penodol ar eu ffermydd yn rhoi’r hyder iddynt beidio â rhoi'r driniaeth hon.
Roedd tri deg dau o brofion wedi'u defnyddio hyd at fis Chwefror 2026 (gweler ffigur 2), a rhoddodd 60% o'r ffermwyr eu triniaethau cyntaf ar gyfer llyngyr yr iau (gweler ffigur 3) rhwng diwedd mis Rhagfyr i fis Ionawr ar ôl i’r profion ddangos canlyniadau amhendant neu gadarnhaol (gweler ffigur 4). Nid oedd 40% o ffermwyr yn y prosiect wedi rhoi triniaeth gyntaf ar gyfer llyngyr yr iau rhwng gaeaf 2025 a mis Ionawr 2026.
Ffigur 2

Ffigur 3

Ffigur 4

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm chi:
1. Tynnwch fap o'ch fferm a nodi'r ardaloedd â risg uchel o lyngyr yr iau (priddoedd clai sy’n wlyb drwy gydol y flwyddyn, presenoldeb malwod llaid).
2. Ailystyriwch eich triniaethau llyngyr yr iau arferol. Oes angen i chi roi triniaeth? A yw'r driniaeth yn wastraff, sydd felly’n gostus? Ydych chi'n trin ar yr adeg gywir gyda'r cynnyrch cywir?
3. Trafodwch gyda'ch milfeddyg sut i ddefnyddio'r prawf llif ochrol i gynorthwyo’r broses benderfynu ar eich fferm o ran yr angen i drin a pha gynnyrch i'w ddefnyddio.
4. Trafodwch gyda'ch milfeddyg sut i reoli llyngyr yr iau mewn ffordd sy’n benodol i'ch fferm fel rhan o gynllun iechyd eich diadell. Bydd hyn yn helpu i osgoi colledion o ran cynhyrchiant, gwerthuso risg a thargedu triniaeth.
5. Ewch i unrhyw ddigwyddiadau hyfforddi sy'n cyfeirio at lyngyr yr iau a pharasitiaid eraill i wella’ch gwybodaeth am sut mae'n berthnasol i'ch fferm chi, am fod gan bob fferm risgiau gwahanol.
Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech gael copi o'r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.