BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Ydych chi'n berchennog tir sy'n chwilio am bartner busnes?

Dewch i ddarganfod a chefnogi y genhedlaeth nesaf o ffermwyr 

Mae Dechrau Ffermio yn cefnogi deiliaid tir sydd â diddordeb mewn darparu cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth gymryd rhan mewn mentrau ar y cyd a phartneriaethau ffermio cydweithredol eraill. Os oes gennych dir, busnes, neu fenter ac yn archwilio ffyrdd o ddod â sgiliau newydd, egni neu opsiynau olyniaeth yn y dyfodol i mewn, gall Dechrau Ffermio eich helpu i adnabod a gweithio gydag ymgeisydd addas. Efallai nad oes gennych olynydd naturiol, neu efallai ei bod hi ychydig yn gynnar iddyn nhw gamu i mewn i'r busnes. Gallai menter ar y cyd fod yn gam i lenwi'r bwlch hwnnw yn y tymor byr, canolig neu hir.

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i'ch helpu i archwilio partneriaethau yn ddiogel, yn realistig ac ar gyflymder sy'n gweithio i chi.

Drwy gymryd rhan yn y cynllun Dechrau Ffermio, gallwch gael mynediad at gymorth i:

  • Archwilio cyfleoedd newydd - Ystyried opsiynau fel lleoliadau gwaith, mentrau ar y cyd, partneriaethau neu lwybrau olyniaeth i'r busnes.
  • Cysylltu â Cheiswyr - Paru a hwyluso i helpu deiliaid tir a cheiswyr tir i archwilio mentrau ar y cyd a phartneriaethau
  • Asesu addasrwydd a hyfywedd - Derbyn cymorth strwythuredig i archwilio cydnawsedd, disgwyliadau a'r ystyriaethau ymarferol dan sylw.
  • Gwneud cynllun - Cymorth busnes wedi'i ariannu'n llawn hyd at £2750 fesul partner i archwilio a phrofi hyfywedd busnes, datblygu cynllun busnes a'ch dealltwriaeth o fentrau ffermio cydweithredol.
  • Lleihau risg - Cyllid o hyd at £2000 fesul partner tuag at gyngor arbenigol i ffurfioli cytundebau a chontractau cyfreithiol

Nid yw cymryd rhan yn eich rhwymo i drefniant hirdymor — gall cyfleoedd fod yn archwiliadol ac yn gymesur.

 

Cymerwch y cam nesaf

Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi newydd ddyfodwr, tyfu eich busnes, neu archwilio ffyrdd cydweithredol o weithio, gall Dechrau Ffermio eich helpu i gymryd y cam cyntaf.

Cliciwch yma i gwblhau Proffil Darparwr neu cysylltwch â'ch Hwylusydd rhanbarthol i drafod eich opsiynau ar gyfer hysbysebu eich cyfle.

Os oes gennych bartner busnes mewn golwg eisoes ac felly heb yr angen am wasanaeth paru, gallwch hepgor y cam hwn i gael mynediad at gyngor busnes a chyfreithiol ar unwaith. Cysylltwch â'ch hwylusydd rhanbarthol. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.