BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Sut i wneud cais am gwrs hyfforddiant wedi'i ariannu

Mae Cyswllt Ffermio wedi cyhoeddi canllaw ‘cam wrth gam’ defnyddiol a fydd yn eich tywys drwy’r broses ymgeisio. 

Cyn y gallwch ymgeisio am hyfforddiant, mae angen i chi… 

Ail-gofrestru gyda Cyswllt Ffermio a symud i GOV.UK One Login. Am fwy o wybodaeth ar sut i wneud hyn, cliciwch yma.  

 

Cam 1

Mynediad at wefan BOSS (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein)

Mae mynediad at BOSS yn hanfodol er mwyn…

  • cwblhau PDP (Cynllun Datblygu Personol) ac adnabod eich nodau hyfforddiant a datblygiad
  • ymgeisio am gwrs/gyrsiau hyfforddiant wedi’i ariannu
  • cwblhau modiwlau e-ddysgu wedi'i ariannu'n llawn
  • cael mynediad at eich cofnod Storfa Sgiliau personol

Os nad oes gennych gyfrif BOSS, cysylltwch â'r Ganolfan Wasanaeth ar 03456 000 813. 

Am ganllawiau cam wrth gam ar sut i gael mynediad i BOSS drwy Sign on Cymru, cliciwch yma a/neu gwyliwch y fideo isod: 

 

Dychwelyd i BOSS

Mewngofnodi i BOSS drwy Sign on Cymru  

 

Cam 2

Cwblhau PDP (Cynllun Datblygu Personol)

Bydd eich PDP yn eich galluogi i adnabod y cyrsiau a fydd yn atgyfnerthu eich sgiliau ac yn eich helpu i ddatblygu eich busnes. Mae adnabod eich nodau hyfforddi yn rhan bwysig o'r broses hon.

DS Ni allwch wneud cais am gyllid ar gyfer cwrs hyfforddi nes eich bod wedi cwblhau PDP a wedi ychwanegu nod yn ymwneud â'r cwrs yr hoffech wneud cais amdano.

Cliciwch yma am eich canllaw i gwblhau PDP ac adnabod eich nodau. 

 

Cam 3

Gweld yr holl gyrsiau hyfforddi

O’ch cyfrif BOSS personol, byddwch yn gallu dewis yr hyfforddiant sydd arnoch ei angen o’r ystod eang o gyrsiau sydd ar gael, sy’n cael eu categoreiddio’n fras o dan y penawdau canlynol:

-        Busnes

-        Da Byw

-        Tîr

-        Tir - Peiriannau ac Offer

O fewn pob categori, fe welwch chi restr o gyrsiau. Cliciwch ar y cwrs o’ch dewis am drosolwg o’r hyn mae’n ei gynnig, ynghyd â rhestr o’r darparwyr hyfforddiant. 

 

Cam 4

Ymgeisio am y cwrs/cyrsiau hyfforddi rydych chi wedi'u dewis 

  • Cyflwyno ffurflen gais ar wefan BOSS ar gyfer y cwrs / cyrsiau hyfforddi sydd eu hangen arnoch chi.
  • Sicrhewch fod teitl, cost a darparwr y cwrs yn gywir cyn cyflwyno'ch cais.
  • Dilynwch y camau hyn i wneud cais:
    • Dewiswch yr adran ‘Dangos a chyflwyno ffurflen gais cwrs hyfforddi’ ar y dudalen flaen BOSS
    • Dewiswch y cwrs rydych chi wedi’u ddewis oddi ar y rhestr
    • Ar ôl i chi glicio ar y cwrs rydych chi ei eisiau, mae categori’r cwrs yn cael ei fewngofnodi'n awtomatig ar eich rhan
    • Dewiswch y darparwr hyfforddiant o'ch dewis o'r rhestr
    • Rhowch gost llawn y cwrs hyfforddi yn y blwch ar eich sgrin (heb gynnwys unrhyw TAW).
    • Atebwch y cwestiwn ‘Sut fydd cwblhau’r cwrs hyfforddi hwn o fudd i’ch datblygiad personol/datblygiad y busnes?’
    • Noder: bydd angen i chi ysgrifennu o leiaf 350 nod (mae hyn yn cynnwys bylchau) neu tua 50 gair cyn y gallwch symud ymlaen i’r dudalen nesaf.
    • Ar ôl i chi wirio eich holl ddewisiadau, cliciwch ‘Arbed’
  • Am gymorth gyda’ch cais sicrhewch eich bod yn cysylltu â’r darparwr hyfforddiant a ddewiswyd gennych neu’r swyddog datblygu lleol am gyngor ac arweiniad.

DS - Mae cwblhau e-ddysgu gorfodol ar BOSS trwy Sign on Cymru (SOC) yn ofynnol ar gyfer rhai cyrsiau hyfforddiant cyn i chi gyflwyno'ch cais. I weld y rhestr lawn o gyrsiau hyfforddiant y mae gofyn i chi gwblhau modiwl e-ddysgu yn gyntaf, cliciwch yma.

Sylwer y bydd methu â chwblhau'r cwrs e-ddysgu gorfodol perthnasol yn anffodus yn golygu y bydd eich cais am gwrs yn cael ei wrthod. Os ydych wedi cwblhau’r cwrs e-ddysgu gorfodol perthnasol ar ôl 1af Ebrill 2025, nid oes rhaid i chi ei gwblhau eto. Am gymorth ac arweiniad cysylltwch â'r Ganolfan Wasanaeth ar 03456 000 813 neu eich swyddog datblygu lleol. 

 

Cam 5

Mynediad i e-ddysgu

Mae ein cyrsiau e-ddysgu rhyngweithiol yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd a phresennol ac yn gwella arferion gwaith o fewn eich busnes,

Cyn i chi wneud cais am gwrs hyfforddiant efallai y bydd angen i chi gwblhau modiwl e-ddysgu gorfodol.

Mae'r rhestr lawn o gyrsiau hyfforddiant y bydd angen i chi gwblhau modiwl e-ddysgu gorfodol ar eu cyfer, ar gael yma.

I gael mynediad i’r modiwlau hyn:

  • Mewngofnodwch i’ch cyfrif BOSS.
  • O'r brif dudalen gartref, ewch i’ch dangosfwrdd sydd wedi’i leoli ar ochr chwith y sgrin.
  • Cliciwch mewn i’ch dangosfwrdd.
  • Bydd y modiwlau gorfodol i’w weld.
  • Cliciwch ar deilsen y cwrs.
  • Cwblhewch y cwrs.

*Noder: bydd angen i chi gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus os ydych chi’n gwneud cais am gwrs yn ymwneud â pheiriannau ac offer. 
 

DS Ar ddiwedd pob cwrs e-ddysgu a gwblheir, bydd ‘Tystysgrif Cwblhau’ yn cael ei lan lwytho i’ch cofnod Storfa Sgiliau ar eich rhan.

 

Cam 6

Cofnodi eich holl sgiliau a'ch cyflawniadau dysgu yn Storfa Sgiliau

Storfa Sgiliau yw’r adnodd diogel, ar-lein i storio data ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus

Bydd yr holl hyfforddiant, e-ddysgu a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth a gwblheir gennych yn ystod y rhaglen gyfredol yn cael eu lan lwytho ar eich rhan. Gallwch hefyd gofnodi eich holl gyraeddiadau a gweithgareddau eraill perthnasol yn eich ardal ‘Fy Lle I’.

Am ragor o fanylion ynglŷn â sut y gall y Storfa Sgiliau fod o fudd i chi, cliciwch yma. 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.