BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Erthygl newyddion

Ceisiadau Meistr ar Borfa a Meistr Regen bellach AR AGOR!

Os ydych chi’n awyddus i ddyfnhau eich gwybodaeth am bynciau technegol allweddol a gwella perfformiad eich busnes, mae Dosbarthiadau Meistr Cyswllt Ffermio yn gyfle perffaith i chi. Mae’r ffenestri ymgeisio ar gyfer Meistr ar Borfa a Meistr Regen bellach AR AGOR a byddan nhw’n cau ar 11 Mai 2026.
Part of:
Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ebrill 2026
Diweddarwyd diwethaf:
27 Ebrill 2026
MasterGrass a MasterRegen

27 Ebrill 2026

Os ydych chi’n awyddus i ddyfnhau eich gwybodaeth am bynciau technegol allweddol a gwella perfformiad eich busnes, mae Dosbarthiadau Meistr Cyswllt Ffermio yn gyfle perffaith i chi. Mae’r ffenestri ymgeisio ar gyfer Meistr ar Borfa a Meistr Regen bellach AR AGOR a byddan nhw’n cau ar 11 Mai 2026. 

Meistr ar Borfa:

Mae sesiynau gweithdy Meistr ar Borfa yn ddelfrydol ar gyfer ffermwyr sy’n awyddus i dorri costau mewnbwn, gwella’r defnydd o borfa, a gwella effeithlonrwydd ffermydd trwy reoli pori a seilwaith yn well.  

Gweithdy ymarferol yw hwn, ac fe’i cynlluniwyd i gyfuno dysgu ymarferol â damcaniaeth hanfodol, a gyflwynir mewn grŵp bach i annog trafodaeth ac ymgysylltiad. Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan ffermwyr profiadol ac arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant wrth iddyn nhw roi mewnwelediadau ymarferol gwerthfawr i chi y gallwch eu defnyddio ar eich system eich hun ar unwaith. Nod y gweithdai hyn yw helpu ffermwyr i wneud y gorau o reoli porfeydd, gwella proffidioldeb, a meithrin gwydnwch. Dysgwch sut i ddylunio platfform pori effeithiol a mesur a rheoli porfa ar gyfer y cynhyrchiant mwyaf gyda’r lleiaf posibl o lafur.

Bydd gweithdai Meistr ar Borfa gyda Sarah Morgan a James Daniel o Precision Grazing Ltd yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad ar sut i:  

  • Fesur a rheoli porfa yn effeithiol  
  • Defnyddio offer pori a meddalwedd pori  
  • Dylunio systemau padog â mapio digidol  
  • Cyllidebu porthiant a chynllunio galw  
  • Arferion gorau ffensio trydan

Ewch i wefan Cyswllt Ffermio i ddysgu rhagor am gynnwys y gweithdy. Mae’r ffurflen gais ar gyfer Meistr ar Borfa i’w chael YMA!

Meistr Regen:

Mae Meistr Regen yn weithdy lefel ragarweiniol i ffermwyr da byw sy’n archwilio egwyddorion ffermio adfywiol. Mae’n darparu gwybodaeth ymarferol i gefnogi’r newid tuag at fusnes cynaliadwy yn amgylcheddol, yn ariannol ac yn gymdeithasol.

Mae’r gweithdy’n canolbwyntio ar systemau proffidiol, heb lawer o fewnbwn sy’n darparu manteision ariannol ac amgylcheddol. Bydd cyfranogwyr yn archwilio iechyd pridd, rheoli pori, geneteg da byw, a dylunio busnesau fferm i adeiladu system ffermio wydn sy’n cyd-fynd â’u nodau.

Mae Meistr Regen gyda James Daniel o Precision Grazing Ltd yn addas ar gyfer ffermwyr da byw sy’n awyddus i fabwysiadu egwyddorion adfywiol, gwella iechyd y pridd, lleihau costau mewnbwn, a datblygu model busnes cynaliadwy a phroffidiol a bydd yn cynnwys canllawiau a gwybodaeth ar sut i:

  • Wella iechyd y pridd drwy reoli pori yn effeithiol
  • Rhedeg system da byw gynhyrchiol, heb lawer o fewnbwn  
  • Paru geneteg a stocio â systemau adfywiol  
  • Alinio pori, bridio a nodau busnes  
  • Cefnogi proffidioldeb a chydbwysedd hirdymor

Ewch i wefan Cyswllt Ffermio i ddysgu rhagor am y gweithdai. Gallwch wneud cais am Meistr Regen YMA! 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.