27 Ebrill 2026
Os ydych chi’n awyddus i ddyfnhau eich gwybodaeth am bynciau technegol allweddol a gwella perfformiad eich busnes, mae Dosbarthiadau Meistr Cyswllt Ffermio yn gyfle perffaith i chi. Mae’r ffenestri ymgeisio ar gyfer Meistr ar Borfa a Meistr Regen bellach AR AGOR a byddan nhw’n cau ar 11 Mai 2026.
Meistr ar Borfa:
Mae sesiynau gweithdy Meistr ar Borfa yn ddelfrydol ar gyfer ffermwyr sy’n awyddus i dorri costau mewnbwn, gwella’r defnydd o borfa, a gwella effeithlonrwydd ffermydd trwy reoli pori a seilwaith yn well.
Gweithdy ymarferol yw hwn, ac fe’i cynlluniwyd i gyfuno dysgu ymarferol â damcaniaeth hanfodol, a gyflwynir mewn grŵp bach i annog trafodaeth ac ymgysylltiad. Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan ffermwyr profiadol ac arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant wrth iddyn nhw roi mewnwelediadau ymarferol gwerthfawr i chi y gallwch eu defnyddio ar eich system eich hun ar unwaith. Nod y gweithdai hyn yw helpu ffermwyr i wneud y gorau o reoli porfeydd, gwella proffidioldeb, a meithrin gwydnwch. Dysgwch sut i ddylunio platfform pori effeithiol a mesur a rheoli porfa ar gyfer y cynhyrchiant mwyaf gyda’r lleiaf posibl o lafur.
Bydd gweithdai Meistr ar Borfa gyda Sarah Morgan a James Daniel o Precision Grazing Ltd yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad ar sut i:
- Fesur a rheoli porfa yn effeithiol
- Defnyddio offer pori a meddalwedd pori
- Dylunio systemau padog â mapio digidol
- Cyllidebu porthiant a chynllunio galw
- Arferion gorau ffensio trydan
Ewch i wefan Cyswllt Ffermio i ddysgu rhagor am gynnwys y gweithdy. Mae’r ffurflen gais ar gyfer Meistr ar Borfa i’w chael YMA!
Meistr Regen:
Mae Meistr Regen yn weithdy lefel ragarweiniol i ffermwyr da byw sy’n archwilio egwyddorion ffermio adfywiol. Mae’n darparu gwybodaeth ymarferol i gefnogi’r newid tuag at fusnes cynaliadwy yn amgylcheddol, yn ariannol ac yn gymdeithasol.
Mae’r gweithdy’n canolbwyntio ar systemau proffidiol, heb lawer o fewnbwn sy’n darparu manteision ariannol ac amgylcheddol. Bydd cyfranogwyr yn archwilio iechyd pridd, rheoli pori, geneteg da byw, a dylunio busnesau fferm i adeiladu system ffermio wydn sy’n cyd-fynd â’u nodau.
Mae Meistr Regen gyda James Daniel o Precision Grazing Ltd yn addas ar gyfer ffermwyr da byw sy’n awyddus i fabwysiadu egwyddorion adfywiol, gwella iechyd y pridd, lleihau costau mewnbwn, a datblygu model busnes cynaliadwy a phroffidiol a bydd yn cynnwys canllawiau a gwybodaeth ar sut i:
- Wella iechyd y pridd drwy reoli pori yn effeithiol
- Rhedeg system da byw gynhyrchiol, heb lawer o fewnbwn
- Paru geneteg a stocio â systemau adfywiol
- Alinio pori, bridio a nodau busnes
- Cefnogi proffidioldeb a chydbwysedd hirdymor
Ewch i wefan Cyswllt Ffermio i ddysgu rhagor am y gweithdai. Gallwch wneud cais am Meistr Regen YMA!