BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Ychwanegu Menter a’i henwi

Mae angen creu mentrau ar gyfer pob sector a restrir gyda Thaliadau Gwledig Cymru (RPW). 

Efallai bod gennych fwy nag un fenter fesul sector, er enghraifft os oes gennych fwy nag un amrywiaeth o gnydau, os oes gennych fuches fasnachol a phedigri, neu os oes gennych 2 fuches laeth gyda phatrymau lloia gwahanol. Mae creu eich mentrau eich hun yn caniatáu i chi bersonoli'r adnodd i gyd-fynd â'r systemau ar eich fferm.

Ar ôl i chi fewngofnodi a dewis enw'r CRN/Fferm yr hoffech ddechrau meincnodi arni, gallwch greu mentrau drwy glicio'r botwm '+ Ychwanegu Menter' ar y Dangosfwrdd.

 

 

Os nad yw sector sydd ei angen arnoch wedi'i restru mewn print trwm yn y ddewislen, bydd angen i chi adolygu'r sectorau rydych chi wedi'u dewis yn RPW Ar-lein

Sylwer - ar ôl i chi ychwanegu data at ddangosyddion perfformiad allweddol o fewn menter, ni allwch olygu na dileu'r fenter hon. Bydd yn aros o dan y fferm hyd y gellir ei ragweld er mwyn caniatáu i ddangosyddion perfformiad allweddol gael eu cymharu am fwy nag un flwyddyn. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r gosodiad cywir ar gyfer eich menter i ddechrau.

Dewiswch Sector ar gyfer cymorth wedi'i deilwra:


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.