Mae dau fath o DPA neu Ddangosyddion wedi'u hymgorffori yn yr adnodd, y rhai sy'n cyd-fynd â Sector benodol a'r rhai sy'n cwmpasu'r fferm gyfan. Gelwir y rhain yn DPAau y Fferm Gyfan.
O fewn adran DPA y Fferm Gyfan, mae 3 chategori o DPAau:
- Amgylcheddol – gan gynnwys dangosyddion sy'n ymwneud ag iechyd y pridd, cynefin a choetiroedd.
- Trosolwg o'r Fferm – dyma DPAu ariannol sy'n edrych ar fusnes y fferm yn ei gyfanrwydd.
- Porthiant a phori - mae’r rhain yn cynnwys DPA ar wahanol gynhyrchiant glaswellt, pori ac india-corn
Gellir dod o hyd i DPAau drwy glicio ar un o'r mentrau neu un o adrannau DPA y Fferm Gyfan ar yr ochr chwith. Yn seiliedig ar osodiad eich menter, bydd DPAau perthnasol yn ymddangos ar y sgrin i chi ddewis ohonynt.

Ystod dyddiadau – ar gyfer pob DPA (ac eithrio'r DPAu ar gyfer dofednod dodwy), bydd y dyddiadau hyn yn flwyddyn galendr sefydlog e.e. 2025, 2026 ac ati.
Pan fyddwch chi'n rhoi data yn y DPAu, cofiwch sicrhau eich bod yn cynnwys data sy'n berthnasol i'r flwyddyn dan sylw.
Yr arfer gorau fyddai casglu'r data o'r un cyfnod bob blwyddyn, e.e. os yw sganio'n digwydd yn ystod mis Rhagfyr 2025/Ionawr 2026, byddech am gasglu'r canlyniadau yn y flwyddyn 2025 gan ei fod yn ymwneud â'ch perfformiad ŵyna yn 2026 hefyd. Os gwnaethoch chi sganio popeth yn ystod mis Rhagfyr 2026, byddech am roi'r canlyniadau yn y flwyddyn 2027 am yr un rheswm.
Wrth edrych ar DPAau Trosolwg Fferm (sy'n seiliedig ar ddata ariannol o'ch busnes), mae'n haws cymryd ffigurau'r flwyddyn ariannol ddiwethaf felly, o bosib 31 Mawrth, gan y bydd y rhain wedi'u cyfrifo ar eich cyfer chi. Fodd bynnag, mae defnyddio'r un data flwyddyn ar ôl blwyddyn fwyaf buddiol ar gyfer hunan-gymhariaeth.
Statws – mae 3 statws y gallai eich DPAu fod arnynt:
- Dim data – mae hyn yn dangos nad ydych wedi nodi unrhyw ddata yn DPA hwn ar gyfer y dyddiadau hyn
- Wedi'i gwblhau – mae hyn yn dangos eich bod wedi ychwanegu data at y DPA ac wedi cael canlyniadau ar gefn eich data a gofnodwyd. Gallwch weld canlyniadau'r DPA, a golygu'r data o'r dudalen canlyniadau os oes angen
- Wedi'i gyflwyno i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy – lle mae'r DPA wedi'i gwblhau a'i gyflwyno i RPW ar gyfer y Cynllun (ni chaiff unrhyw ddata ei anfon at RPW mewn gwirionedd). Ni allwch olygu'r DPAu hyn tan y flwyddyn nesaf
Actions:
- Add data – click to add data to the KPI
- Manage:
- View – click to view the Results page of the KPI
- Edit – click to edit the data previously entered into the KPI
- Submit for SFS – click to Submit the KPI for SFS
- View – click to view the Results page of the KPI