Mae rhwydwaith Ein Ffermydd ledled Cymru ar flaen y gad o ran rhannu arferion gorau a dulliau arloesol newydd drwy arbrofion ymarferol wedi’u hariannu ar y fferm, gan roi mynediad i chi at arbenigwyr yn y diwydiant a'r gwaith ymchwil diweddaraf ar ffermydd drwy ddigwyddiadau ar y fferm ac ar-lein.
Mae'r rhwydwaith yn cynnwys gwahanol haenau, gan ganiatáu mwy o gyfleoedd i ffermwyr Cymru gael eu cynorthwyo i gynnal arbrofion ar y fferm i ddatblygu eu busnesau o dan y fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Haenau Rhwydwaith Ein Ffermydd
arbrofion unigol hirdymor ar y fferm
gwireddu eich syniad drwy arbrawf ar y fferm yn y byr dymor
arbrawf grŵp gyda sawl fferm
llywio cydweithio drwy brosiectau grŵp dynodedig
Sut i gymryd rhan
Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer y garfan nesaf o ffermydd arddangos i ymuno â’r rhwydwaith ar gyfer y rhaglen Cyswllt Ffermio newydd sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2026.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10am ddydd Llun 18 Mai 2026.