BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Erthygl newyddion

Scaling up the acreage of drought-tolerant lucerne at Newton Farm, Brecon, from 6.9 hectares (ha) to 12 maintained grazing for lambs through the summer drought.

Mae tyfu mwy o faglys ar fferm Newton yn Aberhonddu, gan gynyddu o 6.9 i 12 hectar, wedi cynnal tir pori i ŵyn drwy gydol sychder yr haf.
Part of:
Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2026
Diweddarwyd diwethaf:
26 Hydref 2026
picture of sheep

21/09/2026

Mae tyfu mwy o faglys ar fferm Newton yn Aberhonddu, gan gynyddu o 6.9 i 12 hectar, wedi cynnal tir pori i ŵyn drwy gydol sychder yr haf. 

Er gwaetha’r diffyg glaw a’r tywydd cynnes eithriadol yn stopio porfa rhag tyfu, roedd caeau llawn maglys yn perfformio’n dda.

“Dydyn ni heb gael unrhyw law ystyrlon ers mis Mehefin, ac mae’r maglys i gyd wedi cael ei bori ers hynny ac yn tyfu’n ôl tra bod gweddill y fferm wedi dod i stop yn llythrennol,” meddai Tudor Roderick, sy’n ffermio gyda’i rieni, Richard a Helen.

Yn ystod y cyfnod hyd at ddiddyfnu’r ŵyn, fe wnaeth efeilliaid y ddiadell o famogiaid Romney croes magu 320g y dydd ar gyfartaledd.

Aeth y busnes ati i dyfu maglys am y tro cyntaf yn 2024 gyda chefnogaeth Cyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio, menter oedd yn ariannu unigolion a grwpiau o ffermwyr a thyfwyr yng Nghymru i arbrofi gyda syniadau a’u gwireddu. 

Perfformiodd y cnwd mor dda nes i gae arall gael ei ddrilio y flwyddyn wedyn, ac mae bellach wedi’i dyfu ar 12 hectar.

Mae Artemis, cnwd ‘torri’ sy’n wydn ac yn gynhyrchiol iawn, yn cynrychioli cyfran fach o’r tir yma, ond mae’r rhan fwyaf ohono yn faglys.

Mae maglys wedi cael ei fridio’n benodol i’w bori – mae ganddo goron sy’n eistedd yn fwy gwastad i’r ddaear ac mae’n cynhyrchu mwy o egin gyda llai o ffibr a mwy o brotein na chnydau ‘torri’.

Mae Tudor yn argymell yn fawr sefydlu maglys o dan gnwd o farlys a’i dyfu ar y cyd â rhonwellt a meillion gwyn. 

Bydd hynny’n rhoi cydbwysedd maethol da er mwyn atal problemau gyda stumogau chwyddedig a rhai clefydau clostridiol.

Y caeau sydd wedi perfformio orau yn 2026 yw’r gwyndonnydd yn eu trydydd tymor – pan fydd yn aeddfedu’n llawn, bydd gan y planhigyn wreiddiau â dyfnder o dri metr, gan alluogi iddo gloddio am ddŵr yn ddwfn yn y pridd.

“Yn y ddwy flynedd gyntaf, roedd y planhigyn yn dal i sefydlu ei wreiddiau ac fe wnaeth wir arafu o ran twf yn ystod y cyfnod sych yn 2025, oherwydd roedd yn dal i ddargyfeirio egni i ffurfio’r strwythur gwreiddiau. Ond ac yntau bellach yn gwbl sefydledig, mae wir wedi moduro ymlaen,” meddai Tudor.

Yn ei flwyddyn gyntaf o dwf, roedd yn “eithaf sefydlog,” ychwanega. “Mi gawson ni gnwd da o fyrnau ac fe wnaethon ni ei bori unwaith neu ddwywaith ar ôl hynny.”

“Eleni, roedd ei dyfiant mor dda fel bod rhaid inni dynnu padog allan o’r cylchdro yn gynnar yn y tymor oherwydd bod y defaid yn cael trafferth cadw i fyny â’r twf.”

Mae’r teulu Roderick yn gobeithio y bydd y maglys yn gnwd pum mlynedd.

Mae’r gyfradd stocio yn y padogau 1 hectar yn amrywio yn ôl y pwynt yn y cylch cynhyrchu.

“Rydyn ni’n grwpio’r defaid yn 40 neu 50 set o efeilliaid. Erbyn diwedd wyna, mae’n ddwbl y nifer hwnnw, ac ychydig cyn diddyfnu roedd 300 o famogiaid a 500 a mwy o ŵyn mewn un grŵp yn mynd o gwmpas y cylchdro,” meddai Tudor.

Nid dim ond faint o borthiant a gynhyrchir sy’n drawiadol, ond ei ansawdd hefyd – mae maglys ar gyfartaledd yn 24% protein crai ac mae ganddo werth egni metaboliadwy o 12.

“Roedd ŵyn yn perfformio’n dda arno. Roedden nhw’n pori gyda’u mamau nes eu diddyfnu, ac yna fe wnaethon ni symud yr ŵyn hyrddod a’r mamogiaid i dir arall ond cadw’r ŵyn benyw ar y maglys – maen nhw wedi gwneud yn dda iawn arno ers diddyfnu.”

Fe wnaeth yr ŵyn gyflawni pwysau marw o 18.5kg ar gyfartaledd. 

Mae rheoli’r cnwd yn allweddol – mae’n cael ei bori unwaith gan famogiaid ym mis Tachwedd ac yna ni fydd yn cael ei bori eto tan ganol i ddiwedd Mawrth. 

Yn ôl Tudor, pe bai’n cael ei bori eto yn y gaeaf, pan fydd y tywydd yn wlyb, byddai’n lladd y planhigyn.

Un o’i brif bryderon ar y dechrau oedd cyflawni’r uchder gweddilliol cywir ar ôl pori.

Roedd yn anelu at weddillion isel i wella blas, ond gwelodd fod hyn yn arafu aildyfiant.

“Fe wnaethon ni geisio ei gadw’n fyr a melys, ond po fwyaf rydyn ni wedi’i bori, y mwyaf rydyn ni wedi sylweddoli nad oes ots os yw’r defaid yn dod allan ac mae’r cae yn edrych yn goesog. Efallai nad yw’r hyn sydd ar ôl o ansawdd gwych ond mae’n cyflymu aildyfiant.”

Yn y dyfodol, efallai y bydd maglys yn cael ei sefydlu ar 15–20% o’r fferm i sicrhau cyflenwad o borthiant, gan fod patrymau’r tywydd yn dangos mwy o hafau sych.

“Pe bai’r haf yn wlyb, byddai gynnon ni weddill y fferm, sy’n rhygwellt lluosflwydd a meillion yn bennaf, yn tyfu’n dda, ond pan fydd hi’n sych, os bydd hyd at 15–20% o’r fferm yn faglys gynnon ni, o leiaf y byddai gynnon ni rywbeth y gallen ni ddibynnu arno mewn haf sych,” meddai Tudor.

“Mae hynny’n mynd i gynyddu ein gwytnwch yn wyneb y cyfnodau anoddach hyn.”

Mae gan y teulu Roderick wartheg hefyd, ond dydyn nhw ddim yn pori’r maglys, yn bennaf oherwydd bod gan y fferm system teirw biff ac yn pesgi’r gwartheg dan do ar rawnfwydydd er mwyn eu lladd yn 13–14 mis.

Pe baen nhw’n newid i sbaddu gwartheg a phesgi bustych, bydden nhw’n treialu’r gwartheg ar faglys oherwydd byddai gan y gwartheg hynny fwy o alw am borthiant o ansawdd uchel. 

Byddai angen newid yn raddol i’r cnwd, meddai Tudor. “Dwi wedi gweld ffermwyr yng Nghanada yn pori gwartheg ar faglys, ac yn debyg i symud ŵyn i feillion coch, mae angen symud gwartheg yn raddol iawn i faglys.”

Dim ond swm bach o’r maglys a dyfir ar fferm Newton sy’n cael ei gadw fel silwair.

“Mae’r ansawdd yn llawer rhy dda i’w byrnu a’i fwydo yn ôl i wartheg yn y gaeaf. Fy nod yw peidio â’i dorri oherwydd pan mae gennych chi famogiaid sy’n llaetha, yn enwedig y rheini ag efeilliaid a thripledi, mae angen porthiant o ansawdd uchel arnyn nhw yn y fan a’r lle. Does mo’i angen ar wartheg a mamogiaid sych yn y gaeaf,” meddai Tudor.

Yr unig her y mae wedi’i hwynebu yw’r effaith y gall maglys ei chael ar iechyd y traed.

“Mae’n eithaf coesog ac yn codi rhwng y cleddau ac mae ŵyn yn gallu dioddef o sgald. Ond rydyn ni’n eu gyrru drwy faddon traed ac maen nhw’n gwella’n eithaf cyflym.”

Yn groes i’r disgwyl, dydyn nhw heb brofi stumogau chwyddedig. 

“Stumogau chwyddedig oedd y pryder mwyaf. Mi wnaeth pawb ein rhybuddio y bydden ni’n cael problemau, ond dyw e ddim wedi bod yn broblem o gwbl.”

Yr hyn sydd wedi helpu’r teulu Roderick i gael y gorau o dyfu maglys yw cyngor arbenigol.

Rhoddodd y Cyllid Arbrofi fynediad iddyn nhw at yr arbenigwr hadau porfa a phorthiant annibynnol, Francis Dunne.

“Roedd cael rhywun i ddal ein llaw trwy wahanol adegau o’r flwyddyn pan nad oedden ni’n gwybod beth oedden ni’n ei wneud yn werthfawr iawn,” meddai Tudor.

Yng nghanol mis Awst, pan oedd y sychder yn bwyta stociau porthiant cadwedig, roedd 250 o ŵyn benyw yn pori’r maglys.

“Roedd gweddill yr ŵyn a’r gwartheg yn cael eu bwydo, ond roedd y maglys yn llygedyn o obaith ar adeg pan oedd llawer o adfyd,” meddai Tudor.

 

FFEITHIAU AM Y FFERM

  • 344 hectar – yn berchen ar hanner y tir, ac yn rhentu’r hanner arall drwy Denantiaethau Busnes Fferm.
  • 1,100 o famogiaid Romney croes a 300 o ŵyn benyw wedi’u cadw
  • Gwerthir yr ŵyn i Kepak a Pilgrim’s UK
  • 120 o wartheg Stabiliser ac 20 o heffrod cyflo

 


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.