Mae'r bennod hon wedi'i recordio gyda Lynfa Davies a Geraint Jones, Swyddogion Arbenigol Cyswllt Ffermio. Mae'r bennod hon wedi'i recordio gyda Lynfa Davies a Geraint Jones, Swyddogion Arbenigol Cyswllt Ffermio. Maent yn archwilio beth yw rhywogaethau anfrodorol goresgynnol a pham eu bod yn bwysig, yn enwedig mewn amgylcheddau fferm a choetir. Rydym yn egluro sut y gall y planhigion, yr anifeiliaid a'r pathogenau hyn—a gyflwynir yn aml trwy weithgaredd dynol—ledaenu'n gyflym, trechu rhywogaethau brodorol, ac amharu ar ecosystemau cyfan. O glefydau coed fel clefyd coed ynn i blâu niweidiol fel y gacynen felyngoes, rydym yn trafod yr effeithiau go iawn: colli bioamrywiaeth, bygythiadau i fywyd gwyllt lleol, costau economaidd, a difrod hirdymor i dirweddau. Yn syml, dyma rywogaethau nad ydynt yn perthyn i'r amglychedd—a phan fyddant yn cydio, mae'r amgylchedd yn talu'r pris.