16 Ebrill 2026
Mae Cyswllt Ffermio yn gwahodd ffermwyr Cymru i wella gwydnwch eu busnesau drwy ymgeisio i fod yn rhan o raglen y Grwpiau Trafod o 20 Ebrill.
Mae Cyswllt Ffermio yn gwahodd ffermwyr ledled Cymru i ymuno â’r rhaglen grwpiau trafod ddiweddaraf, a fydd yn ceisio meithrin gwydnwch hirdymor busnesau. Drwy ddod ag unigolion brwdfrydig ynghyd i gyfnewid syniadau ac archwilio arferion arloesol, bydd y rhaglen yn ceisio meithrin gwybodaeth broffesiynol a hyder personol. Mae’r dull cydweithredol hwn yn canolbwyntio ar atebion ymarferol sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at sefydlogrwydd economaidd a chynnydd amgylcheddol busnes pob aelod.
Mae Grwpiau Trafod Cyswllt Ffermio yn cynnig grwpiau trafod penodol i’r sector, wedi’u hariannu’n llawn, ar gyfer grwpiau o tua 12 o ffermwyr. Mae’r grwpiau hyn yn cyfarfod wyneb yn wyneb bedair gwaith y flwyddyn o dan arweiniad swyddog ymroddedig a fydd yn creu amserlen bwrpasol wedi’i theilwra i nodau penodol yr aelodau. Drwy gael gwared ar bob cost, mae’r rhaglen yn sicrhau bod datblygiad proffesiynol lefel uchel ar gael i bob busnes.
“Mewn cyfarfodydd, mae pawb yn rhannu’r hyn sydd wedi mynd yn dda, beth sydd ddim, efallai y bydd ffermwr yn meddwl bod ganddo broblem fawr ac yn amharod i’w rhannu, ond pan fydd yn gwneud hynny, ac yn sylweddoli bod gan eraill yr un broblem, mae’n dod yn rhywbeth y gellir ei reoli, ac mae’n teimlo’n llai ynysig,” meddai’r ymgynghorydd defaid annibynnol, Lesley Stubbings, a gefnogodd Grŵp Trafod yn y rhaglen Cyswllt Ffermio ddiwethaf.
Mae effaith y model cydweithredol hwn wedi’i chefnogi gan ddata’r diwydiant. Datgelodd dadansoddiad diweddar o’r Enillion ar Fuddsoddiad (ROI) mewn perthynas â grwpiau trafod y rhaglen Cyswllt Ffermio flaenorol enillion trawiadol o £15.71 i’r diwydiant am bob £1 a fuddsoddwyd. Ar ben hynny, mae adroddiadau gan grwpiau sector cig coch yn dangos bod y cyfuniad o aelodaeth gan gymheiriaid a meincnodi gweithredol yn arwain at welliannau cynaliadwy mewn elw ac effeithlonrwydd.
Y tu hwnt i’r enillion ariannol, mae cymryd rhan yn fuddiol i’r rhai sy’n llywio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Mae presenoldeb yn cyfrif tuag at oriau DPP UA4, ac mae’r rhaglen yn darparu cefnogaeth hanfodol ar gyfer meincnodi, sy’n cyd-fynd â gofynion UA3 yr SFS. Mae aelodau hefyd yn cael platfform digidol preifat er mwyn cyfathrebu drwy gydol y flwyddyn, gan sicrhau bod cyngor arbenigol a chefnogaeth gan gymheiriaid ar gael ymhell ar ôl i’r cyfarfodydd ffisegol ddod i ben.
Dywed Lesley Stubbings fod mynychu grŵp trafod sydd wedi’i deilwra yn cynnig sawl mantais allweddol. “Mae grwpiau trafod yn creu cystadleuaeth iach. “Mae yna elfen gystadleuol gyfeillgar gadarnhaol iawn pan fydd gennych senario grŵp.”
Mae Cyswllt Ffermio yn chwilio am aelodau sy’n barod i ymgysylltu â’u cyfoedion ac arbenigwyr yn y diwydiant. Gall y rhai sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am effaith bod yn rhan o grwpiau trafod ddarllen Astudiaeth Achos Grŵp Trafod Ymddiriedolaeth y Tywysog.
Gofynion y grŵp trafod:
- Cofrestru: Rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda rhaglen Cyswllt Ffermio, gan gynnwys yr ailgofrestru gofynnol drwy RPW Online ac ‘One Login’.
- Meincnodi: Mae ymrwymiad i rannu a chymharu data drwy feincnodi yn hanfodol ar gyfer cynnydd y grŵp.
- Presenoldeb: Disgwylir i aelodau fynychu pob cyfarfod a drefnir er mwyn sicrhau cysondeb a chydlyniant.
- Ymgysylltu Digidol: Rhaid i chi fod yn barod i gymryd rhan ar blatfform cyfathrebu digidol y grŵp i aros mewn cysylltiad rhwng cyfarfodydd.
Ymgeisiwch Nawr:
Mae’r ffenestr ymgeisio yn agor ar 20 Ebrill 2026. Anogir y rhai sydd â diddordeb i ymweld â gwefan Cyswllt Ffermio i gwblhau’r ffurflen gais cyn y dyddiad cau ar 8 Mai 2026. Am ragor o gymorth gyda’r broses ymgeisio, neu i drafod cyfleoedd lleol, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Lleol.
Noder, er bod Cyswllt Ffermio yn ymdrechu i ddarparu ar gyfer pob ymgeisydd, mae sefydlu grwpiau penodol yn amodol ar y galw’n lleol ac ar recriwtio nifer ddigonol o aelodau i sicrhau deinameg grŵp gynhyrchiol.