19 Awst 2026
Fe wnaeth grŵp Agrisgôp, dan arweiniad Rhian Jones, sydd hefyd yn Bencampwr Rhanbarthol ar gyfer Sefydliad DPJ ddod â naw o ffermwyr o fentrau cymysg bîff, defaid, llaeth a dofednod ynghyd i edrych ar sut i wella iechyd meddwl yn y gymuned amaeth.
Fel un o wasanaethau hynaf Cyswllt Ffermio, mae Agrisgôp wedi bod yn cynorthwyo ffermwyr a thyfwyr i gydweithio i ddatrys heriau busnes go iawn ers 2023. Mae’r gwasanaeth dan arweiniad ffermwyr sydd wedi’i ariannu’n llawn yn dod â grŵp o unigolion o’r un anian ynghyd i ddatblygu syniadau, edrych ar gyfleoedd a llywio prosiectau ymlaen mewn amgylchedd ymarferol a chefnogol.
Trwy gyfuniad o drafodaeth gyda chymheiriaid, gweithgareddau ymarferol a mewnbwn arbenigol, rhannodd aelodau’r grŵp brofiadau personol a nodwyd straenachoswyr cyffredin. Wrth wneud hynny, datblygwyd strategaethau ymdopi megis gwella rhyngweithiad cymdeithasol, gweithgaredd corfforol a mabwysiadu meddylfryd cadarnhaol.
Dywed Rhian Jones "Fe wnaeth y grŵp weithio’n dda gyda’i gilydd i gynorthwyo ac annog newid. Credaf fod clywed gan ei gilydd ac arbenigwyr y diwydiant wedi rhoi cipolwg gwerthfawr i aelodau’r grŵp i’r hyn sy’n gwella iechyd meddwl unigolyn.”
Dywed un aelod o’r grŵp, Ffion Hooson, sydd â fferm dda byw gymysg ei bod yn “cael pethau’n llethol ar adegau” cyn ymuno â’r grŵp, gan ychwanegu y gall ffermio fod yn “anodd yn feddyliol, gydag oriau hir, pwysau ariannol a’r cyfrifoldeb parhaus sy’n dod law yn llaw â gofalu am dda byw. Gall hefyd fod yn eithaf unig, yn enwedig pan rydych yn gwneud rhan fwyaf o’r gwaith ar eich pen eich hun.”
Cymerodd y grŵp ran mewn ystod o weithgareddau ymarferol, gan gynnwys ymweld â menter ffitrwydd ar y fferm, rhoi cynnig ar dechnegau meddylgarwch ac edrych ar rôl diet, hydradiad a newidiadau i ffordd o fyw wrth gefnogi lles. Darparodd y siaradwyr gwadd cipolwg ar wytnwch, newid ymddygiad, cwnsela ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn ogystal ag arweiniad ar adnabod arwyddion o iechyd meddwl gwael a chynorthwyo eraill.
Bu i aelodau fyfyrio ar eu hymddygiad eu hunain, pennu pwyntiau gweithredu personol ac arbrofi gyda dulliau newydd megis sesiynau yn y gampfa, ioga a gwell maeth drwy gydol y rhaglen. Un o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol i Ffion oedd ymuno â’r gampfa ar ôl cydnabod bod angen rhywbeth y tu allan i’r fferm arni iddi hi ei hun.
“Roedd ymuno â’r gampfa yn teimlo fel cam cadarnhaol tuag at wella fy iechyd corfforol a fy iechyd meddwl. Mae ymarfer corff wedi rhoi ffordd i mi glirio fy mhen a symud i ffwrdd o bwysau dydd i ddydd ffermio, hyd yn oed os yw am gyfnod byr yn unig. Rwy’n teimlo’n gryfach yn gorfforol ac mae gennyf fwy o egni ac mae wedi rhoi hwb i fy hyder a fy hwyliau”.
Mae’r grŵp hefyd wedi datblygu sgiliau gwrando, holi ac agor sgyrsiau, gan helpu i feithrin hyder wrth drafod iechyd meddwl. Gan fyfyrio ar werth y grŵp, dywed Ffion “fe wnaeth gallu siarad yn agored ag eraill sy’n wynebu’r un heriau fy helpu i sylwi nad oeddwn ar ben fy hun a bod eraill yn teimlo’r un fath”. Ychwanegodd bod yr amgylchedd cefnogol wedi annog aelodau i rannu profiadau a chymryd camau bach cadarnhaol i wella eu lles.
Yn gyffredinol, cyfunodd y grŵp sgiliau dysgu ar y cyd gyda chamau ymarferol i helpu aelodau i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl eu hunain yn well, wrth gryfhau eu gallu i gynorthwyo eraill yn y gymuned amaeth.
Gan edrych yn ôl ar ei phrofiad, dywed Ffion ei bod nawr yn “teimlo’n fwy cadarnhaol ac yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd gofalu am fy lles fy hunain. Mae cymryd y camau bach hynny - ymuno â’r grŵp, siarad yn fwy gonest a gwneud amser ar gyfer ymarfer corff wedi fy helpu i deimlo bod gennyf fwy o gydbwysedd a fy mod yn gallu ymdrin â’r heriau sy’n dod law yn llaw â ffermio.”
Cred bod gofalu am eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â gofalu am y fferm a gall newidiadau bach neu estyn allan i eraill wneud gwahaniaeth mawr.
Ychwanegodd Rhian Jones, "Mae’n dda gweld sut mae rhai aelodau’r grŵp wedi gwneud newidiadau cadarnhaol i wella’u hiechyd meddwl ei hunain ers bod yn rhan o Agrisgôp."
P’un a ydych yn edrych i arallgyfeirio, datgloi potensial menter bresennol neu gysylltu ag eraill i rannu syniadau a phrofiadau, mae Agrisgôp yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i’ch nodau. Gyda hwyluso arbenigol, mynediad at siaradwyr arbenigol, ymweliadau astudio a hyfforddi un i un dewisol, mae Agrisgôp yn darparu’r offer a hyder i droi syniadau’n gamau ymarferol.
Os oes gennych ddiddordeb dechrau grŵp Agrisgôp neu ymuno ag un, edrychwch ar gyfeirlyfr Arweinwyr Agrisgôp i ddod o hyd i hwylusydd yn eich ardal. Agrisgôp | Cyswllt Ffermio