BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Newyddion a Straeon o Lwyddiant

Mae monitro llyngyr yr afu wedi'i dargedu yn rhoi hyder i ffermwr â diadell o 2,000 o ddefaid osgoi triniaeth arferol

Y llynedd, fe ddefnyddiodd fferm Coed Coch yn Abergele, sy’n fenter ffermio ar y cyd, brofion gwaed ac asesiad risg i bennu sut a phryd y byddai’n trin ei stoc am lyngyr.
Part of:
Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2026
Diweddarwyd diwethaf:
23 Hydref 2026
Dafydd Owen and his sheep

22/10/2026

Mae menter ffermio sy’n cadw 2,000 o famogiaid wedi dewis peidio â thrin ei stoc fridio â ffliwcleiddiad yn ystod yr hydref eleni, a hynny ar ôl mabwysiadu ffordd newydd o fonitro a rheoli risg o haint.

Y llynedd, fe ddefnyddiodd fferm Coed Coch yn Abergele, sy’n fenter ffermio ar y cyd, brofion gwaed ac asesiad risg i bennu sut a phryd y byddai’n trin ei stoc am lyngyr.

Yn sgil hyn, doedd dim angen trin ŵyn yn rheolaidd pan gafodd y stoc fridio eu drensio cyn hwrdda yn ystod yr hydref y llynedd.

Eleni, fydd y fferm ddim yn trin unrhyw anifeiliaid cyn hwrdda oni bai bod profion cyfrif wyau ysgarthol (FEC) yn dangos arwyddion o haint.

Yn ôl Dafydd Owen, sy’n berchen ar 10% o’r busnes ochr yn ochr â’r perchennog tir, Harry Fetherstonhaugh, a’r ffermwr ar y cyd, Rhys Williams, mae profion ac asesiad risg wedi rhoi’r hyder iddo ddal yn ôl.

“Fyddwn ni ddim yn rhoi ffliwcleiddiad cyn hwrdda. Byddwn yn defnyddio profion cyfrif celloedd ysgarthol i fonitro’r stoc wrth i’r tymor fynd rhagddo,” meddai.

“Wrth edrych yn ôl, byddwn i wedi gallu dal yn ôl rhag drensio’r mamogiaid yn ogystal â’r ŵyn yn ystod hydref y llynedd hefyd, ond roeddwn i ychydig yn nerfus yn gwneud hynny adeg hwrdda. Roeddwn i’n ofni cael pethau’n anghywir, ond mae gen i’r hyder eleni.”

Mae Dafydd, a lwyddodd i gael y cyfle i ffermio yng Nghoed Coch diolch i raglen Dechrau Ffermio Cyswllt Ffermio, yn dweud iddo fagu’r hyder hwnnw ar ôl cymryd rhan mewn prosiect rheoli llyngyr yr afu a gynhaliwyd gan raglen Cyswllt Ffermio o dan arweiniad y milfeddyg, Phillipa Page, o Flock Health Ltd. Cymerodd 14 fferm arall yng Nghymru ran yn y prosiect hefyd.

Anogwyd ffermwyr i ailasesu’r mannau â risg o lyngyr ar eu ffermydd ac i ddefnyddio prawf gwrthgyrff cyflym ar grŵp sentinel o 10 oen benyw neu stôr a fagwyd gartref.

Cafodd y ffermwyr hefyd eu hannog i ddefnyddio’r prawf cyn unrhyw driniaethau ac fe drafodwyd y canlyniadau gyda Phillipa i bennu a oedd angen trin neu ailbrofi.

Fe wnaeth hyn arwain at 60% o’r ffermwyr hynny yn osgoi rhoi’r driniaeth gyntaf honno ar gyfer llyngyr yr afu tan ddiwedd mis Rhagfyr neu fis Ionawr pan gafwyd canlyniadau amhendant neu bositif.

Wnaeth y 40% arall ddim trin o gwbl rhwng gaeaf 2025 a mis Ionawr 2026.

Mae llyngyr yr afu yn gallu lladd ac effeithio ar gynhyrchiant, a dyna pam mae llawer o ffermydd yn dewis defnyddio ffliwcleiddiad yn rheolaidd wrth geisio rheoli iechyd eu diadelloedd o ddechrau’r hydref – er bod y risg o haint yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

Mae cylch bywyd llyngyr yr afu yn dibynnu ar bresenoldeb malwod y llaid, sy’n cludo’r parasit, yn ogystal â thywydd gwlyb a chynnes yn yr haf sy’n creu lleithder a mwd, gan helpu’r parasit i luosi a heintio profa.

Lluniodd ffermwyr y prosiect fapiau fferm yn nodi’r mannau hynny â risg uchel, gan gynnwys tir â phriddoedd clai, sy’n wlyb drwy gydol y flwyddyn, a lle gwyddys bod malwod y llaid yn bresennol.

Er bod Coed Coch yn fferm gymharol sych, dywed Dafydd fod ganddi bocedi o dir corsiog a ffosydd gwlypach sy’n denu defaid. Mae hyn yn enwedig o wir yn ystod cyfnodau sychach am fod gan yr ardaloedd hyn y lleithder i dyfu mwy o borfa.

“Mae’r map yn dangos ein hardaloedd risg uchel, canolig ac isel, ac er nad ydyn ni wedi ffensio unrhyw un o’r ardaloedd hynny, rydyn ni’n eu rheoli’n wahanol, gan gadw’r defaid i ffwrdd ar adegau penodol o’r flwyddyn,” meddai.

Dywed Dafydd fod y prosiect wedi dangos iddo bwysigrwydd profi’r stoc beth bynnag fo’r tywydd.

“Mae yna wastad perygl mewn peidio â drensio oherwydd ei bod hi wedi bod yn haf sych, ond mewn blwyddyn o’r fath, gallai’r sefyllfa o ran llyngyr yr afu fod yn waeth nag mewn blwyddyn wlyb pe na bai’r ardaloedd mwy corsiog yn sychu’n llwyr, oherwydd bydd anifeiliaid yn cael eu denu atyn nhw.”

Datblygwyd prawf llif unffordd i ffermwyr ei ddefnyddio ar eu ffermydd er mwyn asesu’n gyflym y risg o lyngyr yr afu a’r angen am driniaeth. Y nod oedd lleihau unrhyw driniaethau diangen a sicrhau bod triniaethau’n cael eu rhoi i’r anifail iawn ar yr adeg iawn. 

Fe wnaeth y gwneuthurwr roi’r gorau i gynhyrchu’r prawf hwnnw yn gynharach eleni, oherwydd fe gredwyd bod ffermwyr yn ystyried y gost yn rhy uchel o’i chymharu â phris drensh. Ond yn ôl Phillipa, mae’r prosiect wedi amlygu gwerth profion gwaed, er y bydd hynny nawr yn cynnwys profion labordy ac oedi cyn i’r canlyniadau gael eu rhoi.

Mae hi’n argymell bod ffermwyr yn cwestiynu a oes angen iddyn nhw brofi, ac os ydyn nhw, a ydyn nhw’n trin ar yr adeg iawn a gyda’r cynnyrch mwyaf addas.

“Trafodwch gyda’ch milfeddyg sut i reoli llyngyr sy’n benodol i’ch fferm fel rhan o gynllun iechyd eich diadell, gan y bydd hyn yn helpu i osgoi colli cynhyrchiant ac yn gwerthuso risg a thargedu triniaeth,” meddai Phillipa wrth ffermwyr.

“Mynychwch unrhyw ddigwyddiadau hyfforddi sy’n cyfeirio at lyngyr yr afu a pharasitiaid eraill i wella’r hyn rydych chi’n ei wybod am sut mae’n berthnasol i’ch fferm, gan fod gan bob fferm risgiau gwahanol.”

Eleni, bydd ŵyn benyw Coed Coch yn cael eu hanfon ar dac dros y gaeaf ac efallai y bydd eu gwaed yn cael ei brofi mewn labordy cyn iddyn nhw adael i weld a ydyn nhw wedi dod i gysylltiad â llyngyr yr afu ac angen triniaeth cyn mynd.

“Byddwn wedyn yn gwneud prawf gwaed neu FEC arall pan fyddan nhw’n dychwelyd,” meddai Dafydd.

“Y llynedd, cafwyd canlyniadau negyddol gyda’r prawf llif unffordd cyn iddyn nhw adael, ond pan ddaethon nhw’n ôl mi ddechreuon ni gael rhai canlyniadau positif. Roedd hyn yn golygu bod yna lyngyr yr afu ar y fferm honno, o bosibl, felly mi wnaethon ni eu trin ym mis Ionawr.”

Mae’r ddiadell o ŵyn benyw Romney allan yn yr awyr agored am bedair wythnos o 1 Ebrill, a bydd y dewis cyntaf o ŵyn yn cael eu gwerthu i ABP Foods adeg diddyfnu.

Yn lle’r polisi blaenorol o gadw’r gweddill a’u gwerthu fel ŵyn stôr, bydd y rhain bellach yn cael eu gwerthu i ffermwr âr yn Swydd Lincoln. Bydd hyn yn golygu y gallan nhw adael y fferm ynghynt a bydd yn galluogi’r fferm i ganolbwyntio ar y mamogiaid o fis Hydref ymlaen.

“Gallwn bellach neilltuo’r holl borfa i’r mamogiaid adeg hwrdda, sy’n golygu y gallwn eu cadw yma yn hytrach na’u hanfon i ffwrdd ar drac, felly byddan nhw’n gallu cael porfa drwy gydol y gaeaf,” meddai Dafydd.

Yn 2025, dechreuodd y busnes gadw gwartheg llaeth biff fel rhan o raglen ‘Gamechanger’ ABP Food Group, a hynny mewn partneriaeth â Sainsbury’s a Blade Farming.

Magwyd swp o 180 o wartheg o fis Hydref 2025 tan fis Awst 2026; mae’r niferoedd yn uwch eleni, gyda disgwyl i 280 gyrraedd ym mis Tachwedd.

Mae’r fferm wedi mabwysiadu arferion ffermio adfywiol i wella gwydnwch y fferm a lleihau costau trwy ddefnyddio cyn lleied â phosibl o fewnbynnau.

“Mae cael yr holl wartheg ar y fferm yn rhoi mwy o dail i ni, sy’n golygu ein bod ni’n defnyddio llai o wrtaith. A thrwy bori cylchdro, rydyn ni’n gobeithio y gallwn wella’r porfeydd hefyd,” meddai Dafydd.

PANEL

Yn yr arolwg a gynhaliwyd cyn dechrau prosiect Cyswllt Ffermio, dywedodd 86% o’r ffermwyr a ymatebodd nad oedden nhw’n siŵr o’r risg o lyngyr ar eu ffermydd.

Byddai 80% wedi trin am lyngyr bob hydref/gaeaf.

Byddai 33% bob amser wedi gweinyddu ffliwcleiddiad cyn hwrdda.


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.