BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Erthygl newyddion

Llyfr newydd Bob yn helpu plant i ddiogelu eu golwg ac i gadw'n ddiogel ar ffermydd

Mae mwy na 1,200 o blant mewn ysgolion cynradd ledled Cymru yn dysgu am bwysigrwydd diogelu eu golwg a chadw'n ddiogel o amgylch peryglon posibl ar y fferm, diolch i bartneriaeth rhwng Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB).
Part of:
Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2026
Diweddarwyd diwethaf:
25 Medi 2026
Picture of Bob and Welsh Whisperer in Penparc School

25.09.2026

Mae mwy na 1,200 o blant mewn ysgolion cynradd ledled Cymru yn dysgu am bwysigrwydd diogelu eu golwg a chadw'n ddiogel o amgylch peryglon posibl ar y fferm, diolch i bartneriaeth rhwng Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB).

Yn ystod Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid, mae WFSP ac RNIB yn tynnu sylw at werth addysgol Neis dy weld di, Bob!, sef y trydydd llyfr yn y gyfres boblogaidd o lyfrau am Bob, sy'n cyfuno negeseuon ymarferol am ddiogelwch ar y fferm gyda gwersi pwysig am amddiffyn y golwg a deall colli’r golwg.

Mae mwy na 1,200 o gopïau o'r llyfr eisoes wedi'u dosbarthu i ysgolion cynradd ledled Cymru. Er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch i gynifer o blant â phosibl, mae'r llyfr hefyd ar gael ar ffurf braille.

Fel rhan o weithgareddau Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid, mae’r Welsh Whisperer a Bob y Ci Defaid wedi ymweld ag ysgolion ledled Cymru, yn helpu plant i ddeall pwysigrwydd gofalu am eu golwg, adnabod risgiau posibl, a chadw'n ddiogel ar ffermydd, o gwmpas peiriannau ac yng nghefn gwlad.

Mae'r llyfrau am Bob yn cael eu cyhoeddi gan Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, ac maent yn defnyddio straeon a chymeriadau difyr i annog sgyrsiau am ddiogelwch ymhlith plant, teuluoedd a chymunedau ffermio.

Meddai Siân Tandy, sy’n aelod o Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru:

"Gall ffermydd gyflwyno nifer o risgiau i'n llygaid, o lwch a malurion i gemegion a pheiriannau. Trwy ddefnyddio Neis dy weld di, Bob!, gallwn ni helpu plant i ddeall pam mae amddiffyn eu golwg mor bwysig, a gallwn ni hefyd annog ymddygiad diogel ar ffermydd ac yng nghefn gwlad. 

Mae gweithio ochr yn ochr â'r RNIB wedi ein galluogi i wneud y neges ddiogelwch bwysig hon yn hygyrch i hyd yn oed mwy o blant trwy argraffiadau braille ac ymweliadau ag ysgolion ledled Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran RNIB:

"Gall helpu plant i ddeall colli’r golwg ac amhariad ar y golwg o oedran cynnar feithrin ymwybyddiaeth, empathi a chynhwysiant. Trwy ein partneriaeth â Phartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, rydyn ni’n defnyddio straeon diddorol i gyflwyno'r pynciau hyn wrth atgyfnerthu negeseuon ymarferol am ddiogelu golwg a chadw'n ddiogel ar yr un pryd."


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.