BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Erthygl newyddion

Gweinidog y Cabinet yn Ymweld â Fferm Laeth yng Ngogledd Cymru i Nodi Lansiad Carfan Newydd Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio

Cafodd dyfodol arloesedd ar ffermydd yng Nghymru ei amlygu’r wythnos hon pan wnaeth Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, ymweld â Fferm Ty’n Ddôl yn Llangernyw, Conwy, i nodi lansiad carfan newydd Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio.
Part of:
Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2026
Diweddarwyd diwethaf:
13 Awst 2026
 Llyr Gruffydd , Elgan Davies and Osian Hughes

13 Awst 2026

Cafodd dyfodol arloesedd ar ffermydd yng Nghymru ei amlygu’r wythnos hon pan wnaeth Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, ymweld â Fferm Ty’n Ddôl yn Llangernyw, Conwy, i nodi lansiad carfan newydd Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio.

Cafodd y Gweinidog groeso gan Elgan ac Elena Davies ar fferm Ty’n Ddôl, sy’n un o 19 o ffermydd arddangos newydd sy’n ffurfio Rhwydwaith Ein Ffermydd. Mae’r fferm yn rhan o’r rhwydwaith ochr yn ochr â phum fferm laeth arall, 12 fferm biff a defaid, ac un fferm âr mewn gwahanol rannau o Gymru. Bydd y ffermydd yn gweithio gyda rhaglen Cyswllt Ffermio dros y tair blynedd nesaf i ddatblygu a chyflwyno treialon ymarferol sydd wedi’u cynllunio i wella cynhyrchiant, proffidioldeb a gwydnwch amgylcheddol.

Menter laeth deuluol yw Ty’n Ddôl, sy’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy uchelgais, entrepreneuriaeth ac arloesedd ar ffermydd yng Nghymru. Mae’r fferm yn gweithredu system syml, isel o ran cost, sy’n seiliedig ar borfa gyda 300 o fuchod sy’n lloia yn y gwanwyn ac 20 sy’n lloia yn yr haf. Ers dychwelyd i fferm deuluol Elena, mae’r pâr wedi buddsoddi’n sylweddol mewn tyfu’r busnes, gan gynnwys prynu tir cyfagos, adeiladu parlwr godro cylchdro, gosod traciau ar gyfer y gwartheg, a gwella’r seilwaith storio dŵr a slyri.

Fel rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd, bydd y busnes yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd llafur, cynllunio gwaith, geneteg y fuches a phrofion genomig, arferion godro yn y gaeaf, a defnyddio technoleg i wella perfformiad y fferm a’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Ymhlith eu hamcanion hirdymor mae gwella ffrwythlondeb a chynhyrchiant y fuches, cynyddu’r defnydd o laswellt, a chryfhau gwydnwch ariannol y busnes.

Dywedodd Elgan ac Elena Davies:

“Rydym wrth ein boddau o fod yn rhan o garfan newydd Rhwydwaith Ein Ffermydd. Dros y blynyddoedd, rydym wedi buddsoddi’n helaeth yn y busnes, ac am sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r buddsoddiadau hynny.

“Mae ymuno â’r rhwydwaith yn rhoi mynediad inni at ystod ehangach o arbenigedd, gwybodaeth a chymorth fydd yn ein helpu i nodi cyfleoedd i wella proffidioldeb, iechyd yr anifeiliaid a pherfformiad cyffredinol y fferm. Bydd hefyd yn caniatáu inni herio ein ffordd o feddwl a dysgu gan arbenigwyr a ffermwyr eraill.

“Un o’n prif nodau yw creu busnes sy’n gynhyrchiol ac yn broffidiol ond sydd hefyd yn rhoi i ni fwy o amser i ffwrdd o’r fferm a gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Gobeithiwn y bydd y gwaith a wnawn drwy’r rhwydwaith yn ein helpu i gyflawni hynny, gan rannu gwersi ymarferol y gall ffermwyr llaeth eraill eu defnyddio ar eu ffermydd eu hunain hefyd.”

Mae Rhwydwaith Ein Ffermydd yn adeiladu ar fwy na degawd o weithgarwch llwyddiannus ar ffermydd arddangos a gydlynwyd trwy raglen Cyswllt Ffermio. Mae ffermydd arddangos yn chwarae rhan hollbwysig wrth bontio’r bwlch rhwng ymchwil wyddonol a ffermio ymarferol trwy brofi dulliau newydd o dan amodau ffermio masnachol a rhannu’r canlyniadau gyda’r diwydiant ehangach. Mae’r ffermwyr a ddewisir i ymuno â’r rhwydwaith yn cynnal treialon cadarn ar eu ffermydd sy’n cyd-fynd â’r Fframwaith Rheoli Tir yn Gynaliadwy a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Dywedodd Eirwen Williams, un o Gyfarwyddwr Cyflawni Mentera:

“Mae Rhwydwaith Ein Ffermydd wrth wraidd rhaglen trosglwyddo gwybodaeth Cyswllt Ffermio. Dewisir y ffermydd hyn oherwydd eu bod yn fusnesau uchelgeisiol, sy’n flaengar ac sy’n barod i brofi syniadau newydd a rhannu’n agored yr hyn maen nhw’n ei ddysgu ag eraill.

“Mae’r rhwydwaith yn creu cyswllt gwerthfawr rhwng ffermwyr, ymchwilwyr, cynghorwyr ac arbenigwyr yn y diwydiant, gan sicrhau bod arloesedd yn cael ei brofi o dan amodau ffermio go iawn a’i drosi’n ganlyniadau ymarferol y gall busnesau ledled Cymru eu mabwysiadu.

“Rydym yn arbennig o falch bod ffermydd fel Ty’n Ddôl yn barod i agor eu gatiau a rhannu eu llwyddiannau a’u heriau, gan helpu ffermwyr eraill i wneud penderfyniadau gwybodus a all wella gwydnwch, proffidioldeb a chynaliadwyedd busnesau.”

Yn ystod yr ymweliad, fe wnaeth Llyr Gruffydd gyfarfod â’r teulu Davies i drafod y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu ffermwyr llaeth Cymru a dysgu mwy am y gwaith treialu arfaethedig a fydd yn cael ei wneud fel rhan o’r rhaglen.

Dywedodd Llyr Gruffydd, Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:

“Mae Ty’n Ddôl yn enghraifft gref o’r hyder a’r uchelgais a welwn ar ffermydd ledled Cymru. Nid yn unig y mae Elgan ac Elena yn buddsoddi yn nyfodol eu busnes eu hunain, ond maent hefyd yn barod i rannu eu profiad er budd eraill.

“Yr ysbryd hwnnw o gydweithio yw union hanfod Rhwydwaith Ein Ffermydd. Drwy ddod â ffermwyr at ei gilydd i brofi syniadau, dysgu o dystiolaeth, a rhannu canlyniadau ymarferol, gallwn gefnogi dyfodol mwy gwydn a chynaliadwy i amaethyddiaeth yng Nghymru.”

Bydd carfan ehangach Rhwydwaith Ein Ffermydd yn cael ei lansio’n swyddogol yn y Ffair Aeaf, lle bydd pob fferm arddangos a’u meysydd ffocws yn cael eu harddangos. Yna, bydd cyfleoedd i ffermwyr ddod i gysylltiad â’r rhwydwaith drwy ddigwyddiadau pan fydd pob fferm arddangos hefyd yn cynnal Taith Gerdded yn ystod y rhaglen i rannu’r canfyddiadau a’r canlyniadau ymarferol o’u treialon â’r diwydiant ehangach. 

Llun Fferm Ty'n Ddôl


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.