30 Mawrth 2026
Mae un o broblemau mwyaf sensitif a brys y diwydiant amaeth – etifeddiaeth ac olyniaeth – yn cael sylw uniongyrchol gan ffermwyr yng nghanolbarth Cymru.
Pan gyrhaeddodd y broses o gynllunio olyniaeth fferm y penawdau yn sgil diwygiadau treth etifeddiant Llywodraeth y DU yn 2024, aeth yr Arweinydd Agrisgôp, Elaine Rees, ati i wynebu’r her o greu pecyn o gyfarfodydd i gefnogi’r diwydiant, gan recriwtio dau grŵp yn ardal Y Trallwng.
Mae Agrisgôp, rhaglen ddatblygu a rheoli a ariennir yn llawn, yn annog ffermwyr sy’n gymwys am gymorth y rhaglen i ddod at ei gilydd i fagu hyder a meithrin sgiliau drwy ddysgu gweithredol.
Daeth Elaine â theuluoedd sy’n ffermio at ei gilydd ar gyfer rhaglen strwythuredig yn cynnwys trafodaeth gyda gweithwyr proffesiynol ynghyd â pherchnogion busnes eraill.
Daeth dau grŵp i’r amlwg o’r broses gychwynnol hon – rhieni a oedd yn ceisio ymchwilio a chadarnhau cynlluniau olyniaeth at y dyfodol, a’r genhedlaeth nesaf a oedd yn edrych ar opsiynau ar gyfer cymryd yr awenau a throsglwyddo gwybodaeth gan rieni.
Nodwyd bod cyfathrebu ar draws y cenedlaethau hynny’n allweddol er mwyn sicrhau olyniaeth lwyddiannus.
Lluniwyd y grwpiau i gynnig opsiwn arall ar gyfer y broses o gynllunio olyniaeth, sydd, yn ôl Elaine yn aml yn broses bersonol a phreifat iawn.
“Mae’r cyfarfodydd wedi cynnig y cyfle i dderbyn cyngor proffesiynol a chyngor gan gymheiriaid, amser oddi wrth y fferm er mwyn asesu sefyllfaoedd, a lle diogel a chyfrinachol i drafod,” meddai.
“Mae aelodau’r grŵp wedi rhannu unrhyw bryderon ac ansicrwydd wrth geisio deall y pwnc a’i arwyddocâd sylweddol, gyda’r gobaith o greu cynllun gweithredu.
“Yn bersonol, rwy’n teimlo bod gonestrwydd ac agwedd agored aelodau’r grŵp wrth rannu eu profiadau, eu hamgylchiadau a’u hemosiynau wedi bod yn agoriad llygad, ac mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o’r broses.’’
Mae hyn wedi galluogi’r ffermwyr a fu’n cymryd rhan i ddechrau’r trafodaethau ffurfiol a busnes angenrheidiol cyn gynted â phosibl.
I un pâr sydd wedi bod yn edrych ar y broses o drosglwyddo asedau i’w meibion, mae bod yn rhan o’r grŵp Agrisgôp wedi bod yn dyngedfennol.
“Mae wedi gwneud i ni edrych ar feysydd penodol; roeddem ni eisoes yn ystyried olyniaeth cyn cyllideb Rachel Reeves y llynedd, felly nid oedd yn ymateb annisgwyl.
“Mae’n broses gymhleth iawn, ac yn aml, nid oes atebion syml. Bydd yn wahanol i bob busnes, ond mae cymorth Agrisgôp wedi bod yn ddefnyddiol dros ben. Mae wedi golygu ein bod yn gallu mynd at gyfreithwyr a chyfrifwyr gyda gwybodaeth gefndirol, yn hytrach na derbyn popeth maen nhw’n ei ddweud wrthym yn ddiofyn.”
Mae aelod arall o’r grŵp yn cyfaddef bod y broses olyniaeth a chynllunio treth wedi bod yn ddryslyd iawn cyn iddi ymuno â’r grŵp”.
“Mae clywed gan arbenigwyr wedi helpu o ran darparu gwybodaeth bellach, ac mae’n pwysleisio pa mor bwysig yw bod yn barod. Mae bod yn rhan o’r grŵp wedi bod o fudd mawr gyda hynny.’’
Roedd y rhaglen yn cynnwys “sesiwn holi’r panel” yn Y Trallwng yn ddiweddar, lle bu siaradwyr o gyfarfodydd cynharach y grŵp yn dychwelyd am sesiwn ddwy awr i ateb cwestiynau gan aelodau.
Cafwyd hefyd sesiynau un i un i gadarnhau dealltwriaeth aelodau ac i ddatblygu eu taith i gynllunio olyniaeth ymhellach.
Roedd y siaradwyr hyn yn weithwyr proffesiynol gyda phrofiad o gynorthwyo ffermwyr gyda chyngor ariannol, cyfreithiol a chyngor ar dreth ac ynghylch prisio tir.
Bu Emma Hall, cynllunydd ariannol siartredig gyda 75point3, y cyfrifydd, Sion Roberts o Dunn & Ellis, y prisiwr tir, Richard Corbett o gwmni Roger Parry & Partners ac Angharad Hird o gwmni cyfreithiol Lanyon Bowdler yn darparu arweiniad ar gwestiynau penodol a godwyd gan aelodau’r grŵp.
Un o’r negeseuon clir a ddaeth i’r amlwg oedd pwysigrwydd cael ewyllys, waeth beth fo oedran y ffermwr.
Amlygwyd hyn mewn enghraifft a drafodwyd o deulu ifanc sy’n ffermio lle bu farw’r gŵr yn sydyn. Gan nad oedd ganddo ewyllys, roedd rheolau diewyllysedd yn berthnasol, gan olygu bod ei wraig wedi etifeddu £325,000 cyntaf yr ystâd ynghyd â hanner yr ystâd a oedd yn weddill, gyda hanner arall yr ystâd yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng eu plant.
Rydym ni’n gweld mwy o’r genhedlaeth iau yn dod atom i lunio ewyllys erbyn hyn, meddai Angharad.
O fis Ebrill 2027, bydd pensiynau’n cael eu cynnwys o fewn treth etifeddiant, gyda chynilon pensiwn nad ydynt wedi cael eu defnyddio cyn marwolaeth yr unigolyn yn cael eu trethu fel rhan o’r ystâd.
Gallai hyn arwain at fil treth etifeddiant o hyd at 40% ar werth buddion pensiwn ar farwolaeth, meddai Emma.
Mae llawer o’n cleientiaid bellach yn tynnu arian o’u pensiynau a’i roi mewn ymddiriedolaethau, ac os byddant yn byw am saith mlynedd, ni fydd yn berthnasol ar gyfer y dreth etifeddiant,” meddai.
Mae eraill yn trosglwyddo’r holl arian pensiwn, neu ran ohono, i flwydd-daliadau er mwyn creu incwm, er mwyn lleihau’r ymrwymiadau treth etifeddiant ar ôl marw.
Mae elfen ariannol olyniaeth yn un rhan yn unig o broses bontio eang a chymhleth y mae’n rhaid i ffermydd teuluol ei chyflawni.
Bydd prisiadau’r fferm a’r tir yn arwain CthEF o ran faint o Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus - mae’n rhaid i’r rhain fod yn seiliedig ar y diwrnod y bydd y dreth yn cael ei chodi, nid ffigyrau hanesyddol. Treth Etifeddiant yw’r unig adeg y bydd angen gwerth y llyfr coch ar gyfer eiddo, meddai Richard.
Dywedodd y gallai gwerthoedd gael eu lliniaru gan rai nodweddion megis hawliau tramwy dros dir neu eiddo dan berchnogaeth luosog, felly mae angen ystyried y rhain.
Mae sefydlu pwy sy’n berchen ar beth yn bwysig. “Ni fydd chwilio am y wybodaeth a gedwir gan y Gofrestrfa Tir bob amser yn dangos yr eiddo y mae ffermwyr yn credu y maent yn berchen arnynt,’’ rhybuddiodd Richard.
Wrth gynllunio olyniaeth, mae’n gallu bod yn anodd rhoi emosiwn i’r naill ochr, ond pwysleisiodd Sion bwysigrwydd gwneud hynny a chael cyngor da’n seiliedig ar dreth.
“Ystyriwch eich blaenoriaethau, a manteision ac anfanteision gwahanol ddulliau,” meddai. “Nid oes un ateb yn addas i bawb, mae pob fferm yn wahanol.’’
Trafodwyd hefyd y rheolau’n ymwneud â rhoddion a chostau gofal.
Os bydd unigolyn yn lleihau ei asedau fel nad ydynt yn cael eu cynnwys yn asesiad terfynol yr awdurdod lleol o’r ffioedd gofal sy’n ddyledus, gelwir hyn yn ‘amddifadedd asedau’ bwriadol.
Dywedodd Sion os bydd awdurdod lleol yn penderfynu bod unigolyn wedi lleihau ei asedau’n fwriadol er mwyn osgoi talu ffioedd cartref gofal, mae’n bosibl y byddant yn dal i gyfrifo’r ffioedd fel pe bai’r asedau a roddwyd yn dal i fod yn berchen i’r sawl sydd angen gofal.
Mae amseriad rhoddion hefyd yn bwysig – os oedd yr unigolyn yn iach pan roddodd ei asedau neu ei arian, ac na fyddai modd iddo ddisgwyl yn rhesymol y byddai angen gofal arno’n fuan, mae’n bosibl na fyddai ei weithredoedd yn cael eu hystyried yn amddifadedd asedau, ychwanegodd Sion.
Cymorth drwy lwybr olyniaeth Cyswllt Ffermio
Mae Llwybr Olyniaeth Cyswllt Ffermio yn darparu llwybr strwythuredig a chefnogol i
helpu teuluoedd sy’n ffermio i gynllunio'n effeithiol ar gyfer y dyfodol. Mae'r cynnig wedi'i gynllunio i lywio busnesau fferm trwy bob cam o'u taith tuag at gynllun olyniaeth ac mae'n darparu cyllid i hwyluso sgyrsiau
pwysig a sicrhau bod cynlluniau'n cael eu rhoi ar waith.
Mae'r llwybr olyniaeth yn cynnwys:
1. Adolygiadau olyniaeth
Diagnosteg busnes manwl sy'n helpu teuluoedd i:
- Adolygu asedau
- Deall eu sefyllfa dreth gyfredol a'r peryglon
- Sefydlu rhestr glir o bethau i'w gwneud ar gyfer cynllunio olyniaeth
2. Cyfarfodydd teuluol wedi'u hwyluso
Mae gweithiwr proffesiynol annibynnol yn hwyluso trafodaethau sensitif, gan helpu teuluoedd i:
- Fynd i'r afael â phynciau anodd mewn amgylchedd diogel, dan arweiniad
- Gwella cyfathrebu
- Lleihau gwrthdaro
- Gwella ymwybyddiaeth o ddynameg y teulu a’r tîm a'u heffaith ar effeithlonrwydd busnes
3. Cynllun olyniaeth pwrpasol
Cynllun olyniaeth wedi'i deilwra sy'n mapio senarios ac argymhellion, wedi'i ddatblygu gan ymgynghorydd arbenigol
i adlewyrchu nodau, anghenion busnes a chyfeiriad hirdymor y teulu.
4. Gwasanaethau cyfreithiol arbenigol
Cymorth gan weithwyr proffesiynol cyfreithiol i helpu i roi’r cynllun olyniaeth y cytunwyd arno ar waith. Mae'r cam olaf hwn yn cynnwys ewyllysiau, pŵer atwrnai, cytundebau partneriaeth neu drosglwyddiadau ac mae'n hanfodol i sicrhau bod y cynllun yn mynd rhagddo ac nad oes oedi gyda’r broses.
Ochr yn ochr â hyn, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn ymuno â grŵp Agrisgôp gyda busnesau eraill sy'n llywio heriau tebyg.
Os hoffech chi gael arweiniad ar sut y gallai'r newidiadau hyn effeithio ar eich busnes, neu os ydych chi'n barod i ddechrau ar eich taith i gynllunio olyniaeth, mae Cyswllt
Ffermio yma i helpu.
Cysylltwch â Cyswllt Ffermio heddiw ar 03456 000 813 i gael mynediad at gymorth drwy'r Llwybr Olyniaeth.
Fel arall, gallwch ymweld â gwefan Cyswllt Ffermio am ragor o fanylion ac i gyflwyno ffurflen ymholiad ar-lein.
Mae cynllunio nawr yn helpu i sicrhau dyfodol eich teulu a'ch fferm.