13 Gorffennaf 2026
Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) yn galw ar ffermwyr ledled Cymru i gamu ymlaen a dod yn Llysgenhadon Diogelwch Fferm gan helpu i hyrwyddo arferion gwaith mwy diogel a lleihau nifer y digwyddiadau sy’n newid bywydau ar y fferm.
Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn dod â lleisiau uchel eu parch o’r gymuned amaethyddol ynghyd i rannu profiadau go iawn, codi ymwybyddiaeth ac annog newid ymddygiad cadarnhaol ar draws y diwydiant.
Mae’r byd amaeth yn parhau i fod yn un o’r diwydiannau mwyaf peryglus yn y DU ac mae rôl llysgenhadon yn hanfodol i gyrraedd cyd ffermwyr gyda negeseuon clir ac ymarferol a all wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad.
Bydd y rhai sy’n cael eu dewis fel llysgenhadon yn cynorthwyo gydag ymgyrchoedd, yn mynychu digwyddiadau a’n rhannu eu straeon eu hunain i helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd lles a diogelwch fferm.
“Fel Llysgennad Diogelwch Fferm presennol, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol y gwerth wrth i ffermwyr yn siarad yn agored â ffermwyr eraill am y peryglon rydym yn eu hwynebu bob dydd. Nid yw’n ymwneud â phregethu wrth bobl ond yn hytrach am rannu profiadau go iawn, annog newidiadau bach a helpu i amddiffyn bywydau, teuluoedd a dyfodol ein ffermydd”, meddai Alun Elidyr.
Ychwanegodd Sian Tandy, Pennaeth Cyfathrebu ar gyfer Cyswllt Ffermio: “Gwyddwn fod y negeseuon mwyaf pwerus yn dod o fewn y diwydiant ei hun. Dyma gyfle i unigolion sy’n poeni am eu cymunedau helpu i ddylanwadu ar newid, cynorthwyo eraill a gwneud effaith barhaol ar ddiogelwch fferm ledled Cymru.”
Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn awyddus i glywed gan unigolion sy’n frwd dros wella safonau diogelwch, yn barod i rannu eu profiadau ac yn gallu ymgysylltu ag eraill ar draws y sector.
Sut i wneud cais?
Fe anogir ffermwyr a gweithwyr amaethyddol sydd â diddordeb mewn dod yn Llysgennad Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru i gysylltu i gael rhagor o wybodaeth ac i fynegi diddordeb.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch yma neu cysylltwch â Sian Tandy ar sian.tandy@mentera.cymru