CYMHWYSTER
Sylwer y bydd angen i gais ddangos 'Oes/Do/Ydi' ar gyfer pob maen prawf a restrir isod.
Meini prawf cymhwyster | Oes / Do / Ydi | Na |
A oes o leiaf 5 busnes ffermio/tyfu yn gysylltiedig? | ☐ | ☐ |
A yw pob aelod sydd am fod yn rhan o’r prosiect wedi ail gofrestru gyda Cyswllt Ffermio? | ☐ | ☐ |
A yw'r holl gostau a ddangosir yng nghynnig y prosiect yn gymwys i'w hystyried fel rhan o'r meini prawf ariannu? | ☐ | ☐ |
A oes gan y prosiect hwn amserlen realistig ar gyfer cwblhau? | ☐ | ☐ |
A yw'r prosiect yn cyd-fynd ag o leiaf un weithred gyffredinol y cynllun ffermio cynaliadwy ac o leiaf un amcan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy? | ☐ | ☐ |
Yn seiliedig ar yr uchod, a yw'r prosiect hwn yn gymwys fel prosiect Grŵp Trafod? | ☐ | ☐ |
Bydd pob cais cymwys yn cael ei sgorio gan banel asesu (sy’n cynnwys aelodau o dîm Cyswllt Ffermio a staff allanol) a bydd angen i geisiadau ar gyfer prosiectau llwyddiannus ddangos y canlynol:
- Yr angen am y gweithgaredd
- Gallu i gyflawni
- Gwerth am arian
Gallu i ychwanegu gwerth at gyflawniad y grŵp trafod
Bydd pob gofyniad yn cael ei bwysoli ar 25%.
Bydd y wybodaeth a ddarperir yn sail i'r meini prawf dethol a bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer proses asesu a gwerthuso y gellir ei defnyddio i wneud penderfyniad ynghylch dyfarnu cyllid i'r cais. Wrth asesu ceisiadau, bydd Cyswllt Ffermio yn ceisio sicrhau dosbarthiad teg o brosiectau, sectorau a phynciau ledled Cymru.
Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei hasesu yn erbyn y meini prawf graddio canlynol;
Uchel (80-100%) |
Mae'r cais yn darparu tystiolaeth gadarn, fanwl a chlir mewn ymateb i'r holl ofynion |
Canolig (60-80%) |
Mae'r cais yn darparu ymatebion boddhaol a manwl yn erbyn y rhan fwyaf o'r gofynion |
Isel (40-60%) |
Mae'r cais yn darparu ymatebion anghyflawn neu annigonol posibl yn erbyn un neu fwy o'r gofynion |
Isaf posibl (>40%) |
Mae'r cais yn darparu ymatebion anghyflawn neu annigonol yn erbyn un neu fwy o'r gofynion |
Y trothwy ansawdd ar gyfer cais yw sgôr cyffredinol Canolig ar gyfer yr adrannau isod:
Gofyniad | Asesir adrannau yn erbyn pob gofyniad |
Yr angen am y gweithgaredd | Trosolwg o'r prosiect - alinio strategol
|
Gallu i gyflawni | Cyflawni a rheoli’r prosiect
|
Gwerth am arian |
|
Gallu ychwanegu gwerth | Gallu ychwanegu gwerth i’r grwpiau trafod
|
Bydd y ceisiadau sy'n cyflawni sgôr cyffredinol Canolig ar gyfer yr adrannau uchod yn cael eu rhestru yn nhrefn eu sgôr canrannol ar gyfer yr adrannau uchod a bydd yr arian sydd ar gael yn cael ei ddyfarnu i'r 18 cais sy'n sgorio uchaf. Noder, mae gan Cyswllt Ffermio'r hawl i beidio â dyfarnu cyfanswm y prosiectau yn y cyfnod ymgeisio hwn ac mae'n bosibl y bydd cyfnod ymgeisio arall yn y dyfodol.