Hyd y prosiect
Rhaid i brosiectau llwyddiannus gael eu rhoi ar waith a’u cwblhau o fewn yr amserlen a nodir ar y ffurflen gais a rhaid i gyllid y prosiect grŵp trafod fod wedi’i ddyrannu. Rhaid cwblhau pob prosiect cyn pen 18 mis i'r Dyddiad Dyfarnu.
Cyfrinachedd
Drwy gydol y broses ymgeisio ni fydd Cyswllt Ffermio yn datgelu manylion cyfrinachol prosiectau gydag unrhyw barti arall. Dim ond ar ôl i'r prosiect gael ei gymeradwyo ar gyfer cyllid y bydd gwybodaeth sy'n ymwneud â'r gwahanol brosiectau yn cael ei chyhoeddi. Mae hysbysiad preifatrwydd Cyswllt Ffermio ar gael yma: Hysbysiad Preifatrwydd Cyswllt Ffermio
Perchnogaeth data
Bydd data yn parhau i fod yn eiddo i'r ffermwyr/tyfwyr sy'n cymryd rhan yn y prosiect. Fodd bynnag, gan fod y prosiect wedi'i ariannu'n gyhoeddus, bydd angen i wybodaeth sy'n ymwneud â'r prosiect fod ar gael i'r cyhoedd drwy Cyswllt Ffermio. Os yw ffermwr/tyfwr yn ystyried ei fod yn dod â gwybodaeth sy’n sensitif yn fasnachol, yna ei gyfrifoldeb ef yw ystyried a yw mecanwaith a ariennir yn gyhoeddus fel Cyswllt Ffermio yn addas iddo.
Rhannu'r canlyniadau
Bydd y canlyniadau'n cael eu rhannu â ffermwyr/tyfwyr eraill yng Nghymru (gan gynnwys y rhai y tu allan i'r grwpiau trafod) trwy weithio gydag aelod penodol o dîm Cyswllt Ffermio ar weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth megis digwyddiadau. Bydd angen cynhyrchu adroddiad terfynol o fewn y templed a ddarperir ar brosiect y grŵp trafod cyn i gostau terfynol y prosiect gael eu talu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at Brosiectau Grŵp Trafod Cyswllt Ffermio ar fcdgprojects@mentera.cymru