BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Event

Rheoli Plâu Integredig ym maes garddwriaeth

Mae'r gweithdy lefel uchel hwn sy'n canolbwyntio ar gnydau a dyfir mewn caeau yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth ymarferol i dyfwyr i weithredu Rheoli Plâu Integredig (IPM) yn effeithiol.
Math o ddigywddiad:
Dyddiad ac amser:
-
Lleoliad:
Broadward Hall Farm

Event overview

Mae'r gweithdy lefel uchel hwn sy'n canolbwyntio ar gnydau a dyfir mewn caeau yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth ymarferol i dyfwyr i weithredu Rheoli Plâu Integredig (IPM) yn effeithiol. Gan gynorthwyo i gyflawni UA2, mae'r cwrs yn hyrwyddo gwydnwch hinsawdd, yn hybu cynhyrchiant cnydau, ac yn meithrin cydbwysedd ecolegol hirdymor. Trwy gyfarwyddyd sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gweithgareddau rhyngweithiol, ymarferol, bydd cyfranogwyr yn magu hyder mewn rheoli plâu cynaliadwy a gwneud penderfyniadau gwybodus.

Pynciau i'w trafod

  • Deall IPM - Beth yw IPM a pham ei fod yn bwysig ar gyfer gwydnwch hinsawdd, garddwriaeth, a phroffidioldeb
  • Camsyniadau cyffredin
  • Rheolaethau biolegol, plannu cnydau cyfatebol, a chreu cynefinoedd
  • Strategaethau monitro a chanfod cynnar
  • Cylchoedd bywyd plâu allweddol a thechnegau canfod
  • Atal a rheolaethau diwylliannol - amodau gorau posibl ar gyfer y cyflwynwyr asiantau rheoli, gwybod pryd a sut i weithredu.
  • Lleihau dibyniaeth ar fewnbynnau cemegol - Rheolaethau biolegol a mecanyddol.
  • Mapio a monitro Iechyd Planhigion gan gynnwys templed IPM ar gyfer SFS. Casglu data i fapio a chael dealltwriaeth o bwysau a llwyddiannau rheoli flwyddyn ar ôl blwyddyn. (Meincnodi)

Bydd y digwyddiad hwn yn cyfrif tuag at eich oriau DPP fel rhan o weithred gyffredinol 4 yr SFS.

 

I neilltuo eich lle, cofrestrwch isod neu cysylltwch â Sarah Dummett, sarah.dummett@lantra.co.uk 

 

Os nad ydych wedi eisioes, byddwch angen ailgofrestru gyda Cyswllt Ffermio gan ddefnyddio eich cyfrif One Login GOV.UK newydd. 

Mae canllaw ar sut i gofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar gael yma: Ail-gofrestrwch gyda Cyswllt Ffermio a symudwch i GOV.UK One Login | Farming Connect

Dyddiad ac amser

Dyddiad Amser Lleoliad Cost Speaker Booking details
Mer, 19 Awst 2026 10yb - 1yp Broadward Hall Farm FREE
- Book online

Cyswllt

Enw:
farmingconnect@menterabusnes.co.uk

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg / We welcome correspondence in Welsh


Beth Sydd Ymlaen

Mae'r gweithdy lefel uchel hwn sy'n canolbwyntio ar gnydau a dyfir mewn caeau yn rhoi'r sgiliau a'r...

Bydd mynychwyr y gweithdy yn gweithio trwy’r agweddau ar reoli sy’n effeithio ar ffrwythlondeb y...

Mae'r gweithdy lefel uchel hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth ymarferol i dyfwyr i weithredu Rheoli...

Bydd mynychwyr y gweithdy yn dysgu am y sefyllfa bresennol gyda Chlafr gan gynnwys yr effaith ar les...


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.