BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Ymwybyddiaeth o Alergeddau Bwyd - Lefel 3

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2023
Diweddarwyd diwethaf:
25 Medi 2023

Cwrs un dydd.

  • Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at y rhai sy’n gyfrifol am brynu, cyflenwi, cynhyrchu a gweini bwyd yn y diwydiant arlwyo a gweithgynhyrchu.
  • Mae hefyd yn addas ar gyfer y rhai sy’n berchen ar/yn rheoli busnes arlwyo/bwyd ar raddfa lai. 
  • Bydd y dysgwyr sy’n ennill y cymhwyster hwn yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth sy’n ymwneud â rheoli cynhwysion bwyd, gan gynnwys alergeddau, ar bob cam o’r broses o brynu a chynhyrchu bwyd.
  • Bydd y pynciau’n cynnwys:  rôl y rheolwr/perchennog yn y gwaith o sicrhau bod cynhwysion bwyd yn cael eu rheoli’n effeithiol, a bod y broses o rannu gwybodaeth am gynhwysion rhwng y cyflenwr a’r defnyddiwr yn fanwl gywir.
  • Pwysigrwydd rhoi mesurau rheoli ymarferol ar waith er mwyn atal halogi gan alergeddau, yn ogystal â dulliau o reoli cynhwysion a gweithdrefnau cysylltiedig.

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

I weld y cyrsiau ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? Ewch i businesswales.gov.wales/cy/boss i gael gwybod mwy


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.