BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Cwrs Hyfforddiant

Ymwybyddiaeth, archwilio a rheolaeth amgylcheddol i’ch busnes.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2021
Diweddarwyd diwethaf:
28 June 2024

Cwrs hyfforddi 1 diwrnod yw hwn. Bydd tystysgrif hyfforddiant yn cael ei rhoi ar ôl ei orffen.

Nod y cwrs yw rhoi’r offer i chi i’ch galluogi i gwblhau archwiliad amgylcheddol o’ch fferm neu fusnes ar y tir a dynodi ble gallwch chi arbed adnoddau, defnyddio’r Technegau Gorau sydd Ar Gael, lleihau costau, cynllunio ar gyfer eich gwastraff a lleihau gwastraff a chydymffurfio â deddfwriaeth newydd.

Sesiynau’r cwrs:

  • Deall cefndir polisïau a deddfwriaeth Amgylcheddol.
  • Deall eich Amgylchedd yn lleol, adnoddau, cylchedau, llygredd a bioamrywiaeth
  • Deall agweddau busnes, prosesau ac effeithiau.
  • Deall y defnydd o Dechnegau Gorau sydd ar Gael a sut y gallwn weithredu’r rhain yn eich busnes chi.
  • Ymchwilio i effeithiau a chamau/offer adfer y gellir eu defnyddio i leihau effeithiau Amgylcheddol a Iechyd a Diogelwch
  • Archwiliad amgylcheddol o fenter ffug a defnyddio offer all fod o ddefnydd i chi yn eich busnes eich hun.
  • Meincnodi’r fenter hon mewn cymhariaeth â busnesau tebyg i greu cymariaethau a gwersi y gallwn eu dysgu
  • Deall gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.
  • Deall cynlluniau rheoli maetholion ffermydd
  • Deall mapiau risg ffermydd 
  • Deall Nwyon Tŷ Gwydr 
  • Deall archwilio ôl troed Carbon, Carbon niwtral a chamau lliniaru
  • Cynllunio at ddyfodol eich busnes - dadansoddiad SWOT a chynlluniau gweithredu

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.