BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Y Rheolwr Gwledig – sgiliau cyfathrebu effeithiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf:
2 Ebrill 2024

Trosolwg:
Gall pawb siarad a gwrando, ond a ydym bob amser yn effeithiol yn y ddau? 
Mae'r cwrs undydd hwn wedi'i gynllunio i bobl ddysgu a datblygu sgiliau cyfathrebu effeithiol sy'n hanfodol yn y gweithle gwledig. 
Mae’n cwmpasu sgiliau cyfarwyddo a sgiliau gwrando a chanolbwyntio ar ddatblygu sgiliau rhyngbersonol rhagorol ar gyfer cyfathrebu cytûn yn y gweithle. Mae'r cwrs yn cyfuno trafodaethau dan arweiniad hyfforddwr, theori, ac ymarferion grŵp.
Nod: Darparu dealltwriaeth glir o gyfrifoldeb cyfathrebu a datblygu'r sgiliau perthnasol i berfformio'n effeithiol ac effeithlon fel gwrandäwr a rhoddwr cyfarwyddiadau. Deall sut mae'r broses gyfathrebu gyfan yn hollbwysig a sut i addasu eich dull i'r sefyllfa i gynhyrchu'r canlyniadau gofynnol trwy arferion cyfathrebu effeithiol.

Amcanion: Erbyn diwedd y rhaglen, bydd cyfranogwyr yn gallu:

•    Disgrifio cydrannau cyfathrebu wyneb yn wyneb
•    Deall a Dehongli Iaith y Corff yn briodol
•    Nodi’r meysydd procsemig sy'n dylanwadu ar effeithiolrwydd    
Cyfathrebu
•    Arddangos technegau ar gyfer meithrin cydberthynas
•    Datblygu sgiliau gwrando gweithredol
•    Datblygu sgiliau holi gweithredol
•    Defnyddio cyfarwyddiadau yn y gweithle
•    Osgoi rhagdybiaethau a chamddealltwriaeth
•    Ymestyn cyfathrebu i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol
•    Adborth a'i bwysigrwydd i atgyfnerthu negeseuon cadarnhaol 

Dull: Bydd y cwrs yn cyflwyno cyfres o gysyniadau a syniadau am arfer gorau cyfathrebu ynghyd â chyfleoedd i fyfyrio ar y syniadau hynny, eu trafod a’u rhoi ar waith.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

Ansicr beth yw BOSS? Ewch i businesswales.gov.wales/cy/boss i gael gwybod mwy


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.