BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Y Rheolwr Gwledig – Rheoli Amser

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf:
2 Ebrill 2024

Trosolwg: Mae'r cwrs undydd hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unigolion sy'n ffurfio tîm craidd bach neu deulu ac mae'n adeiladu ar gryfderau'r unigolion i greu synergedd tîm. Mae'r cwrs yn cyfuno trafodaethau dan arweiniad hyfforddwr, theori, ac ymarferion grŵp. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i bobl ddysgu a datblygu technegau Rheoli Amser effeithiol a blaenoriaethu tasgau sy'n hanfodol yn y gweithle gwledig, gan gwmpasu dirprwyo effeithiol mewn gweithlu bach. Mae'r cwrs yn cyfuno trafodaethau dan arweiniad hyfforddwr, theori, ac ymarferion grŵp.

Wedi'i gynllunio ar gyfer: Rheolwyr fferm, staff a rheolwyr mewn busnesau gwledig.

Nod: Darparu dealltwriaeth glir o'r angen am flaenoriaethu effeithiol, a datblygu'r arfau sydd eu hangen i berfformio'n effeithiol ac effeithlon yn y gweithle gwledig, ac ymestyn yr arfau hyn i gwmpasu bywyd y tu allan i'r gweithle.

Amcanion: Erbyn diwedd y rhaglen, bydd cyfranogwyr yn gallu:
• Dylunio a datblygu offeryn blaenoriaethu sy'n bersonol iddynt hwy eu hunain sy'n integreiddio sectorau brys a phwysig
• Gweithredu offer cynllunio megis dadansoddi llwybrau critigol a siartiau Gantt
• Rheoli dyddiadur yn bendant
• Datblygu cynllun gweithredu personol
• Disgrifio elfennau dirprwyo sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau
• Rhestru llawer o ffyrdd arloesol o ymdrin â materion yn ymwneud ag amser.

Dull: Bydd y cwrs yn cyflwyno i chi gyfres o gysyniadau a syniadau am arfer gorau rheoli amser ynghyd â chyfleoedd i fyfyrio ar y syniadau hynny, eu trafod a’u rhoi ar waith

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

Ansicr beth yw BOSS? Ewch i businesswales.gov.wales/cy/boss i gael gwybod mwy


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.