BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Cwrs Hyfforddiant

Tynnu Trelar: Ar y Ffordd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2021
Diweddarwyd diwethaf:
8 Ebrill 2026

Hyd y cwrs yn ddibynnol ar brofiad. Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch yn cael asesiad a bydd tystysgrif yn cael ei rhoi ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus

Hyd y cwrs yn ddibynnol ar brofiad. Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch yn cael asesiad a bydd tystysgrif yn cael ei rhoi ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus

Disgwylir i’r cwrs gymryd un diwrnod, ond gall hyn amrywio yn ddibynnol ar ffactorau fel lefel y profiad, modylau neu atodiadau a ddewisir, neu’r gymhareb hyfforddwyr i ddysgwyr.

Mae’r cwrs yn cynnwys cymysgedd gytbwys o sesiynau theori ac ymarferol.

Byddwch yn dysgu am fanylion diogelwch a’r gofynion cyfreithiol o ran trelars.

Bydd sesiynau’r cwrs yn cynnwys:

  • Gofynion cyfreithiol – tynnu ar y ffordd
  • Cyfyngiadau pwysau
  • Math o drelar a bachyn – addasrwydd i’r diben a chyfyngiadau defnydd
  • Yr hyn sy’n achosi damweiniau
  • Gweithdrefnau bachu/dadfachu
  • Tynnu trelar ar y ffordd
  • Llwytho – effeithiau ar sefydlogrwydd/rheolaeth
  • Gwiriadau cerbydau/trelar
  • Ymarfer brecio
  • Cyfyngiadau’r system frecio

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.