BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Cwrs Hyfforddiant

Tryc Codi Gwrthbwyso

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2021
Diweddarwyd diwethaf:
9 Awst 2023

Hyd y cwrs yn ddibynnol ar brofiad. Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch yn cael asesiad a bydd tystysgrif yn cael ei rhoi ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus.

Datblygwyd y cwrs hyfforddi hwn i’ch helpu i ddeall sut i weithredu tryc codi gwrthbwyso yn ddiogel.

Bydd faint o hyfforddiant y bydd arnoch ei angen yn dibynnu’n bennaf ar eich profiad blaenorol a bydd y sesiynau yn cael eu haddasu i fodloni eich gofynion. Bydd hyd y cwrs yn ddibynnol ar brofiad, trafodwch eich gofynion gyda’r darparwr o’ch dewis.

Bydd y cwrs hyfforddi yn cynnwys sesiynau theori ac ymarferol, ac yna asesiad. Mae sesiynau’r cwrs yn cynnwys:

  • Diogelwch a Chyfraith Tryciau Codi
  • Ardaloedd Cynnal a Chadw Cyffredin a Gwiriadau cyn Cychwyn
  • Cychwyn, Stopio a Symud Sylfaenol
  • Gweithio gyda Phaledi a Llwythi (fel sy’n berthnasol)
  • Asesiad Theori
  • Asesiad Ymarferol.

Os byddwch yn llwyddiannus yn bodloni’r safonau gofynnol sy’n cael eu hasesu, dyfernir tystysgrif cymhwyster i chi a cherdyn adnabod sgiliau Lantra ar gyfer y dystysgrif y byddwch yn ei dewis.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.