BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Trin a Thrafod Pwysau

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
28 June 2024

Cwrs hanner diwrnod yw hwn. Gyda thystysgrif hyfforddiant ar ôl ei gwblhau.

Mae’n bwysig trin a thrafod pwysau yn y ffordd gywir er mwyn osgoi anaf. Drwy wneud y cwrs hwn, byddwch chi'n cael yr wybodaeth ymarferol sydd ei hangen arnoch i ddeall y risgiau sy'n gysylltiedig â trin a thrafod pwysau yn anghywir.  Byddwch chi’n dysgu sgiliau sylfaenol trin a thrafod pwysau, gyda theori gefndirol ac ymarfer. Byddwch chi'n edrych ar y mathau o anafiadau sy'n cael eu hachosi drwy drin a thrafod pwysau yn anghywir a sut i fod yn ddiogel wrth gyflawni tasgau. Mae sesiynau'r cwrs yn cynnwys: trin a thrafod pwysau a’r gyfraith, y system gyhyrysgerbydol, mecaneg symudiadau, mathau o anafiadau trin a thrafod pwysau, asesu risgiau, mesurau rheoli ar gyfer lleihau'r risgiau o niwed, egwyddorion trin yn ddiogel ac offer trin a thrafod pwysau.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

Nodwch gall Groundwork Gogledd Cymru gyflwyno'r cwrs hwn yn ddigidol. Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.