BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Trimio Carnau Canolradd (Gwartheg) – 3 diwrnod

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2023
Diweddarwyd diwethaf:
20 Tachwedd 2024

Mae Cymdeithas Milfeddygon Gwartheg Prydain (BCVA) ynghyd â’r Bwrdd Safonau Gofal Carnau Gwartheg (CHCSB) wedi datblygu rhaglen o gyrsiau trimio a thrin traed gyda’r bwriad o roi’r hyfforddiant diweddaraf i ffermwyr, wedi’i gyflwyno gan dîm o hyfforddwyr sydd wedi eu hyfforddi i lefel uchel. Mae’r rhaglen yn cynnwys un diwrnod o Gymorth Cyntaf i Draed a thri diwrnod o Drimio Carnau Canolradd.

Darperir y cyrsiau i gyd gan Hyfforddwr Iechyd Traed sydd wedi’i Achredu gan BCVA mewn cydweithrediad â Hyfforddwr wedi’i Achredu gan CHCSB. Mae’r bartneriaeth hyfforddi hon yn golygu y bydd y cynrychiolwyr yn elwa o amrywiaeth eang o arbenigeddau damcaniaethol ac ymarferol ac mae’r gofyniad i hyfforddwyr ddiweddaru eu gwybodaeth bob amser a chael eu hachredu i gyflwyno’r cyrsiau’n golygu y bydd safonau’r hyfforddiant yn parhau’n uchel

Adolygir cynnwys y cyrsiau’n gyson er mwyn sicrhau eu bod yn ymgorffori canfyddiadau’r ymchwil diweddaraf a’u bod wedi eu cyfateb â dulliau arferion gorau’r diwydiant. Mae’r cyrsiau’n cyflawni gofynion y cyrff sicrwydd ac yn darparu Tystysgrif Cymhwysedd i’r cynrychiolydd pan fydd yn cwblhau’r asesiadau diwedd cwrs yn llwyddiannus. 

TRIMIO CARNAU CANOLRADD: Cwrs tri diwrnod llawn ar gyfer pobl sy’n gwneud gwaith trimio ataliol ac yn trin gwartheg cloff. 

Bydd y cwrs yn ymdrin â’r canlynol:

  • Trosolwg o anatomeg a datblygiad anafiadau
  • Yr offer ar gyfer y gwaith (yn cynnwys hogi cyllyll) a defnyddio hogwr
  • Trosolwg o’r sgoriau symudedd
  • Adnabod yr anafiadau sy’n achosi cloffni a’u cofnodi
  • Trin, codi ac archwilio troed
  • Y dull 5 cam 
  • Protocolau trin: Dewis rhwystr a rhoi NSAID (yn cynnwys cyfeiriad gan filfeddyg) 
  • Trimio ymarferol a rhwystro/trin anaf 
  • Atal cloffni: Ffactorau Llwyddiant 

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Cloffni mewn Gwartheg

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant a ganlyn ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

I weld y cyrsiau ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? Ewch i businesswales.gov.wales/cy/boss i gael gwybod mwy


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.