BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Cwrs Hyfforddiant

Rheoli Coetir ar gyfer Cadwraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2021
Diweddarwyd diwethaf:
28 June 2024

Cwrs hyfforddi 1 diwrnod yw hwn. Bydd tystysgrif hyfforddiant yn cael ei rhoi ar ôl ei orffen.

Diben y cwrs hwn yw rhoi gwybodaeth sylfaenol i ymgeiswyr i reoli coetir pan fydd cadwraeth natur yn brif nod. Mae’r cwrs hwn yn trafod hanes sylfaenol coetiroedd Prydain, strwythur y goedlan, heriau rheoli a’r technegau a sut y gallant effeithio ar blanhigion ac anifeiliaid, nodweddion coetir ac egwyddorion rheoli er budd cadwraeth.

Mae sesiynau’r cwrs yn cynnwys: 

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu:

  • Cael y wybodaeth sylfaenol i reoli coetir pan fydd cadwraeth er budd natur yn brif nod    
  • Gwybodaeth am hanes sylfaenol Coetir Prydain
  • Gwybodaeth am y pedair haen mewn coetir a’u pwysigrwydd i fioamrywiaeth
  • Gwybodaeth am y dulliau traddodiadol o reoli coetir a sut y gall y dulliau hyn, pan fyddant yn addas, ychwanegu at gadwraeth coetir
  • Gwerthfawrogi’r blaenoriaethau ar gyfer cadwraeth coetir
  • Gwybodaeth am Ddangosyddion Coetir Hynafol Rhannol Naturiol
  • Sylweddoli a ddylid ymyrryd neu beidio er budd cadwraeth
  • Pryd y gall teneuo, adfywio a phlannu fod yn addas ar gyfer cadwraeth
  • Deall cyfraniad llennyrch, darnau agored a choed marw/ar farw at gadwraeth
  • Egwyddorion rheoli ar gyfer cadwraeth natur

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

 

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.