BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

IEMA - Tystysgrif Sylfaen mewn Rheolaeth Amgylcheddol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2023
Diweddarwyd diwethaf:
25 Medi 2023

Mae hwn yn gwrs pum diwrnod sy’n seiliedig ar gynaliadwyedd, ac mae’r awydd am Sgiliau Gwyrdd wedi agor llawer o lwybrau proffesiynol newydd ar draws pob sector. Mae cwblhau'r cwrs Tystysgrif Sylfaen IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn ffordd berffaith o ddangos bod gennych chi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen.  Bydd y cwrs hwn yn eich arwain yn uniongyrchol at Aelodaeth Gyswllt o'r IEMA. Bydd y cwrs hwn yn darparu syflaen wybodaeth am gynaliadwyedd a’r amgylchedd er mwyn i chi allu adeiladu arni.  Wrth ymdrin ag amrywiaeth eang o egwyddorion amgylcheddol, cynaliadwyedd a llywodraethu, bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o ehangder yr agenda cynaliadwyedd, a’r adnoddau a’r sgiliau rheoli y bydd eu hangen arnynt wrth weithio yn y maes hwn.

 

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

I weld y cyrsiau ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? Ewch i businesswales.gov.wales/cy/boss i gael gwybod mwy


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.