BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Gyrru Tractor - Llwythwr Blaen

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
28 June 2024

Mae hwn yn gwrs hyfforddi 1 i 2 ddiwrnod yn nodweddiadol gydag asesiad integredig (yn ddibynnol ar brofiad). Rhoddir tystysgrif ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus.

Mae’r tractor yn beiriant allweddol i gymaint o fusnesau ac mae ei ddefnyddio yn ddiogel ac effeithlon yn hanfodol. Byddwn yn eich arwain trwy theori gyrru tractor, gyda sesiynau ar faterion iechyd a diogelwch allweddol. Byddwch hefyd yn cael digon o brofiad ymarferol tu ôl i’r llyw. 
Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi ddefnyddio llwythwr blaen ar y tractor. Er mwyn gwneud y mwyaf o’r cwrs hwn argymhellir y dylech fod â rhywfaint o brofiad o yrru tractor.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.