BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1) / Gwasgaru Plaladdwyr yn Ddiogel gan ddefnyddio Offer Llaw (PA6)

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
7 Ebrill 2025

Fel arfer yn gwrs hyfforddiant deuddydd gydag asesiad ar ddiwrnod gwahanol. Rhoddir tystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. 

PA1 = Mae’r cwrs hwn yn bodloni’r gofynion cyfreithiol ar gyfer Rheoliadau Rheoli Plaladdwyr ac mae’n eich caniatáu i weithio heb oruchwyliaeth yn y diwydiant. Er mwyn cyflawni’r cymhwyster hwn, byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth o’r Cod Ymarfer Cymeradwy ar gyfer Cynnyrch Diogelu Planhigion (Approved Code of Practice for Plant Protection Products). Mae angen i chi gwblhau’r cwrs hwn cyn cwblhau cyrsiau ymarferol, yn enwedig yn ymwneud â defnyddio plaladdwyr.

PA6 = Mae’r cymhwyster hwn yn darparu hyfforddiant ar ddefnyddio offer chwistrellu â llaw. Bydd y cwrs yn edrych ar sut i baratoi eich offer, ei gynnal a’i gadw a’i ddefnyddio a’i raddnodi’n ddiogel.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Diogelwch Plaladdwyr

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.