BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Cynllunio Marchnata Digidol a Defnyddio Offer Digidol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf:
4 Ebrill 2024

Mae cynllun marchnata digidol yn bwysig i fusnesau o bob maint ei ddatblygu. Mae cynllun marchnata digidol yn gweithredu fel map ffordd i gyrraedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd targed yn effeithiol ar draws amrywiol sianeli digidol. 
Bydd y cwrs hwn yn dangos i chi sut i amlinellu amcanion a nodau clir gyda strategaethau y gellir eu gweithredu i gyflawni gweledigaeth y cynllun. 
Bydd y cwrs hwn yn galluogi perchnogion busnes i ddeall eu marchnad darged, eu cystadleuwyr a thueddiadau diwydiant.  
Yn y cwrs hwn, dangosir i chi sut i ddefnyddio offer digidol i greu ymgyrchoedd sy'n apelio at eich cynulleidfa. Trwy fuddsoddi amser ac adnoddau i ddatblygu cynllun marchnata digidol a gwybod sut i ddefnyddio offer digidol, gall perchnogion busnes gwneud y gorau o’u presenoldeb ar-lein, gwella ymwybyddiaeth brand, tyfu eu sylfaen cwsmeriaid a chyflawni twf cynaliadwy yn y dirwedd gystadleuol ar-lein heddiw.

Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar:
•    Adolygu eich sefyllfa marchnata digidol presennol
•    Adolygu ac ailwampio ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol eich busnes ac offer i hyrwyddo, cyrraedd a thargedu cwsmeriaid, grwpiau a llwybrau marchnata newydd trwy apiau ac offer digidol
•    Adolygu/diffinio a datblygu cynllun marchnata digidol a chynllun cyfryngau cymdeithasol
•    Gwybod sut i ddefnyddio ystod o offer marchnata digidol a chyfryngau cymdeithasol ac offer olrhain

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

Ansicr beth yw BOSS? Ewch i businesswales.gov.wales/cy/boss i gael gwybod mwy


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.