BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Cynllunio ar gyfer Arallgyfeirio neu Fenter Newydd ar y Fferm

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
21 Chwefror 2025

Cwrs undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb yn dilyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Byddwch yn dysgu’r sgiliau er mwyn edrych ar ddichonolrwydd gwahanol fentrau ac effaith arallgyfeirio ar y mentrau presennol. Bydd y cwrs yn edrych ar ymchwil i’r farchnad, ac elfennau sylfaenol yn ymwneud â chyllidebu. Bydd hefyd yn ymdrin â chynllunio a gweithredu’r prosiect,  ynghyd â’r problemau a allai ddod yn sgil hynny. Bydd y cwrs yn helpu i’ch cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a’ch cyfeirio tuag at brosiect arallgyfeirio posibl.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.