BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Cyflwyniad i Reoli Llyngyr a Chyfri Wyau mewn Carthion i Gynhyrchwyr Defaid

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
2 Awst 2024

Dyma gwrs hyfforddi undydd gyda thystysgrif am ei gwblhau.

Ydych chi'n cyfri defaid? Gallwch chi wybod a oes ganddynt lyngyr neu barasitiaid ai peidio drwy gyfri wyau mewn carthion.
Mae cryn dystiolaeth fod angen i ffermwyr ddibynnu llai ar feddyginiaeth lladd llyngyr oherwydd bydd y feddyginiaeth yn mynd yn llai effeithiol o gael ei defnyddio dros amser a bydd y parasitiaid a’r llyngyr yn datblygu ymwrthedd.
Drwy fynychu'r cwrs, gallwch chi ddysgu sut mae canfod a rheoli'r broblem yn gallu arbed amser ac arian i chi.
Bydd y cwrs yn rhoi sylw i hanfodion rheoli llyngyr mewn defaid drwy eich helpu chi i ddeall cylch bywyd llyngyr, sut i ddefnyddio offer cyfri wyau mewn carthion, a phwysigrwydd profi ar wahanol adegau o'r flwyddyn. Beth gall nifer yr wyau mewn carthion ei ddweud am iechyd eich diadell. Rhoddir sylw cyffredinol i gyfri wyau mewn carthion a’r gwahanol ddewisiadau sydd ar gael ar gyfer profi. Yn olaf, rhoi’r driniaeth fwyaf briodol DIM OND os oes angen.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

 

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.