BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Cwrs Hyfforddiant

Cyflwyniad i Gynllunio Busnes Amaethyddol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
28 June 2024

Cwrs undydd gyda thystysgrif yn dilyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Mae’r cwrs hwn yn ymwneud ag elw gros a chyllidebu ar gyfer mentrau. Mae’n edrych ar y ffactorau sy’n effeithio ar elw gros a sut i fynd i’r afael â’r ffactorau hynny. Mae hefyd yn ymdrin â chyllidebu at y dyfodol, fel sy’n ofynnol wrth baratoi cynllun busnes.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.