BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Cwympo a Phrosesu Coed dros 380mm

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
29 Ebrill 2025

Cwrs hyfforddiant dwys dros 3 diwrnod gydag asesiad annibynnol a thystysgrif ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Gall cwympo coed fod yn dasg beryglus. Dyna pam mae’n bwysig sicrhau eich bod yn meddu ar yr hyder, y ddealltwriaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn gwneud hynny’n ddiogel.
Bydd y cwrs hwn yn darparu’r technegau a’r wybodaeth diogelwch angenrheidiol er mwyn sichrau eich bod yn hyderus, ond hefyd yn ddiogel wrth  gwympo coed dros 380mm. Sesiynau’r cwrs: Deddfwriaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, cwympo, technegau cwympo ychwanegol, gwaredu brigau, trawslifio coed sydd wedi cwympo, tynnu coed crog i lawr, trin bonion coed, clirio’r safle a gwiriadau ar y llif gadwyn. Mae’n ofynnol eich bod wedi cwblhau eich cymwysterau Cynnal a Chadw, Trawslifio a Chwympo Coed dan 380mm  cyn gallu mynychu’r cwrs.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio

Gweler manylion cyswllt yr holl ddarparwyr hyfforddiant isod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.