BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Cwrs Drôn Amaethyddol - Tystysgrif Cymhwysedd A2

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2023
Diweddarwyd diwethaf:
7 Mawrth 2024

Tystysgrif Cymhwysedd A2 Ar-lein

Tystysgrif yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) (https://www.caa.co.uk/

*Os yw’r myfyriwr yn berchen ar ei drôn ei hun, bydd disgwyl iddo hefyd gofrestru fel Gweithredwr Systemau Awyrennau Di-griw (UAS) a thalu £10 am ID Gweithredwr.

Mae’r cwrs Tystysgrif Cymhwysedd A2 yn arwain at dystysgrif cymhwysedd peilot o bell. Ei nod yw sicrhau bod Awyrennau Di-griw sy’n ‘agos at’ unigolion nad ydynt ynghlwm â hynny yn cael eu gweithredu’n ddiogel yn Is-gategori A2 y Categori Agored.

Mae’r cwrs Tystysgrif Cymhwysedd A2 yn cynnwys pedwar modiwl ar-lein, sef:

  • Cyflwyniad i Dystysgrif Cymhwysedd A2
  • Meteoroleg
  • Perfformiad Hedfan UAS
  • Egwyddorion Gweithredu

Yna ceir arholiad damcaniaethol llyfr caeedig ar-lein a fydd yn cael ei oruchwylio gan aelod o Dîm Academi Hyfforddi RUAS o bell. Nid oes asesiad hedfan ymarferol ac nid oes gofyn gwneud cais i’r CAA.

Mae RUAS yn gofyn am Hunan-ddatganiad ysgrifenedig wedi’i lofnodi i ddatgan bod yr ymgeisydd wedi cwblhau’r hyfforddiant angenrheidiol i ennill lefel resymol o sgiliau a hyfedredd i weithredu ei UAS. Rhaid cyflwyno Cofnodion Hedfan Electronig hefyd fel tystiolaeth.

Mae gofyn i’r myfyriwr gwblhau’r DAMARES (Cynllun Addysg Cofrestru ar gyfer Modelau o Awyrennau a Dronau) a phasio’r arholiad cysylltiedig drwy wefan CAA, a fydd yn rhoi ID hedfan unigol i’r myfyriwr. Os yw’r myfyriwr yn berchen ar ei drôn ei hun, bydd disgwyl iddo hefyd gofrestru fel Gweithredwr UAS a thalu £10 am ID Gweithredwr.

 

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant a ganlyn ar gael i gyflwyno’r cwrs: 

I weld y cyrsiau ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? Ewch i businesswales.gov.wales/cy/boss i gael gwybod mwy


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.