BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Cofleidio Newid

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf:
2 Ebrill 2024

Trosolwg: Mae newid yn anghyfforddus, er bod rhai yn ei chael yn haws ei dderbyn nag eraill. Bydd cyfranogwyr yn profi pam ein bod yn naturiol yn gwrthwynebu newid a sut i adnabod eu hymateb rhagosodedig eu hunain.
 
Nodau: Mae'r cwrs yn cyflwyno modelau hyfforddi i annog agwedd gadarnhaol tuag at newid nawr ac ar gyfer y dyfodol, gan alluogi mynychwyr i ddeall y llwybr at newid effeithiol, gan eu grymuso i symud ymlaen yn haws.

1) Paratoi ein hunain i newid.
2) Gwneud eich agwedd yn hyblyg.
3) Y naratif oddi mewn.
4) Twyllo'r Trol.
5) Ehangu'r gorwel.

Mae unrhyw un sy'n wynebu newid yn amharod i'w gofleidio. Gall teuluoedd, timau ac unigolion i gyd elwa o'r cwrs hwn. 

Dulliau:
• Ofn newid fel ymateb cyntefig.
• Cydnabod y broses o newid a'r dewisiadau sydd gennych.
• Datblygu hyblygrwydd seicolegol gan ddefnyddio hyfforddiant ymddygiadol gwybyddol gyda thempledi i'w cymryd i ffwrdd ar gyfer datblygiad pellach.
• Herio ein naratif mewnol i newid persbectif

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Hanfodion busnes llwyddiannus

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:

Ansicr beth yw BOSS? Ewch i businesswales.gov.wales/cy/boss i gael gwybod mwy


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.