BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Cneifio Defaid gyda Pheiriant

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2019
Diweddarwyd diwethaf:
17 Mawrth 2026

Dyma gwrs hyfforddi deuddydd gydag asesiad integredig.
Rhoddir tystysgrif Gwlân Prydain ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus.

Bydd y cwrs yn rhoi gwybodaeth i chi allu sefydlu, cynnal, iro ac addasu offer cneifio er mwyn gweithio’n ddiogel a phriodol, yn unol â llawlyfr y gwneuthurwr. Trin defaid gan ystyried lles yr anifail a diogelwch personol. Cneifio defaid mewn modd cymwys, heb gymorth, i’r ansawdd a’r safonau ansoddol fel sy’n ofynnol gan gynllun ardystio Gwlân Prydain. Cyflwyno’r cynnyrch gwlân i'w werthu, gan ddeall pwysigrwydd ffactorau sy’n effeithio ar ei werth.

Cysylltwch â'r Bwrdd Gwlân yn uniongyrchol i archebu'r cwrs. Peidiwch ag archebu trwy eu gwefan.

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

O'r 1af Ebrill 2026 bydd 80% o gymorth wedi'i ariannu tuag at y cwrs hwn. Am fwy o fanylion cysylltwch â chanolfan wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813 neu eich swyddog datblygu lleol.

Os ydych chi am drafod archebu lle ar cwrs, cysylltwch ag Estelle Drye yn British Wool (manylion cyswllt isod). Diolch.

 

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.