BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Cwrs Hyfforddiant

Arolygu ac Archwilio Coed Sylfaenol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2021
Diweddarwyd diwethaf:
18 Hydref 2024

Cwrs hyfforddi 1 diwrnod yw hwn. Bydd tystysgrif hyfforddiant yn cael ei rhoi ar ôl ei orffen.

Anelir y cwrs hwn ar gyfer y rhai all fod â chyfrifoldeb am y coed yn eu gwaith.
Byddwch yn dysgu am y problemau iechyd a diogelwch perthnasol, yn ogystal â’r ddeddfwriaeth allweddol a’r asesiadau risg. Bydd sesiwn ymarferol yn nodi coed peryglus hefyd yn rhan o’r cwrs. 

Mae sesiynau’r cwrs yn cynnwys: 

  • Iechyd a diogelwch 
  • Asesiad Risg 
  • Fframwaith Cyfreithiol
  • Casglu’r wybodaeth 
  • Cyfyngiadau a chwmpas yr arolygon 
  • Coed peryglus 
  • Ymarferion 
  • Cloi

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn gallu:

  • Nodi goblygiadau cyfreithiol a diogelwch coed peryglus 
  • Gofalu am eich iechyd a diogelwch eich hun tra byddwch yn cynnal arolwg coed sylfaenol a’u harchwilio 
  • Adnabod coed peryglus 
  • Pennu lefel y risg 
  • Penderfynu ar gamau gweithredu priodol 
  • Casglu a chadw gwybodaeth ddigonol

Nodwch mai canllaw yn unig yw amlinelliad, hyd a llun bob cwrs. Cysylltwch â'r darparwr hyfforddiant am fwy o wybodaeth.

 

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno’r cwrs hwn:


I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8:30yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.