BETA

You're viewing an updated version of this site - your feedback will help us to improve it.

Training course

Ambiwlans Sant Ioan - Cymorth Cyntaf i Ffermwyr

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2023
Diweddarwyd diwethaf:
9 Awst 2023

Dangos dealltwriaeth o sgiliau trin a chydnabyddiaeth gyffredinol er mwyn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i’r dysgwr ar sut i reoli darpariaeth cymorth cyntaf mewn amgylchedd ffermio.

Mae’r cwrs yn ymdrin â’r canlynol:

  • Nodau, swyddi a chyfrifoldebau’r swyddog cymorth cyntaf
  • Asesu a rheoli digwyddiadau. 
  • Gallu cynnal arolwg eilaidd.
  • Darparu cymorth i glaf anymatebol sy’n anadlu’n normal.
  • Darparu cymorth i glaf anymatebol sydd ddim yn anadlu’n normal.
  • Rhoi cymorth cyntaf i glaf sydd wedi torri esgyrn, ac sydd wedi anafu ei gyhyrau a’i gymalau.
  • Darparu cymorth i glaf sydd wedi llosgi. 
  • Darparu cymorth i glaf sydd mewn sioc.
  • Darparu cymorth i glaf sydd wedi brifo ac sy’n gwaedu.
  • Darparu cymorth i glaf sy’n dioddef o wres neu oerni eithafol.

O 1 Medi 2023, rhaid i bob ymgeisydd gwblhau'r modiwl e-ddysgu gorfodol canlynol cyn gwneud cais am gyllid - Uned Orfodol: Iechyd a Diogelwch – Rheoli Risg mewn Coedwigaeth a Ffermio

Mae’r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i ddarparu’r cwrs hwn:

I weld y cyrsiau ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? Ewch i businesswales.gov.wales/cy/boss i gael gwybod mwy


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03456 000 813

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.