Nid yr Hysbysiad Preifatrwydd cywir? Chwiliwch am yr un cywir ar Mynegai Hysbysiadau Preifatrwydd Busnes Cymru.
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Fusnes Cymru ac Idox, ac yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC), rydym ni wedi datblygu Rhybudd Preifatrwydd sy’n ymdrin â pham yr ydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth. Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn deg ac yn gyfreithlon ac mewn modd tryloyw.
Cymerwch ychydig amser er mwyn ymgyfarwyddo eich hun â’n hymarferion preifatrwydd.
Pam yr ydym yn casglu ac yn prosesu’r data a gasglwyd
Llywodraeth Cymru yw’r Rheolydd Data ar gyfer y data personol yr ydych wedi’i darparu ar ffurflen gofrestru Fy Musnes i yng Nhymru. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol sydd wedi'i freinio ynom i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Mae cyfran gyfyngedig o’r data yn cael ei basio i’n darparwr trydydd parti, Idox; mae hyn yn galluogi i’ch chwiliadau sydd wedi cael eu harbed gael eu defnyddio gennych chi yn y dyfodol. Lle yr ydych chi wedi gofyn am dderbyn rhybuddion ynglŷn â chyllid sy’n cydweddu â’ch chwiliadau sydd wedi cael eu harbed, yna bydd y rhain yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost. Gweler eu hysbysiad preifatrwydd am sut y maent yn trin eich data.
Mae’r wybodaeth bersonol a fydd yn cael ei chasglu a’i chadw yn cynnwys:
- cyfeiriad e-bost
- enw cyntaf
- cyfenw
Pwy fydd yn cael mynediad at eich data?
Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn storio eich data.
Bydd eich data yn cael ei storio ar System TG ddiogel Llywodraeth Cymru a systemau TG diogel ein contractwyr (gan gynnwys trydydd partïon) sy'n darparu'r gwasanaeth i chi. Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ddelio ag unrhyw dor diogelwch data a amheuir. Os bydd amheuaeth o dor data’n digwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Am ba hyd y cedwir eich manylion
Bydd eich data personol yn cael ei gadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddinistrio'n ddiogel. Gallwn ddileu'r wybodaeth yn gynt os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach.
Os nad ydych am i ni gadw eich manylion, cysylltwch â ni ar cymorthbusnes@llyw.cymru a byddant yn cael eu dinistrio'n ddiogel.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi’r hawl i:
- gael gwybod am y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi a chael mynediad ato
- gofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw
- gwrthwynebu (mewn rhai amgylchiadau) prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- ‘dileu’ eich data (mewn rhai amgylchiadau)
- cludadwyedd data (mewn amgylchiadau penodol)
- gwneud cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG) ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael cymorth gydag unrhyw un o'r hawliau uchod, cysylltwch â'n Llinell Gymorth Busnes Cymru 03000 6 03000, rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg, neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni.
I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'r defnydd ohono, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: dataprotectionofficer@gov.wales
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Cyswllt y Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Caer
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Deddf Rhyddid Gwybodaeth a’ch Gwybodaeth chi
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu’r cyhoedd i ofyn am gael gweld y wybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru. Gall y wybodaeth yr ydych chi’n ei darparu ar ein cyfer fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o’r cyhoedd. Byddwn ni’n ymgynghori â chi i gael eich barn cyn ymateb i gais o’r fath.
Newidiadau i’r polisi hwn
Gall Llywodraeth Cymru wneud rhai newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau yn cael eu rhoi yma ac maen nhw’n dod i rym yn syth.
Cafodd y rhybudd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf Rhagfyr 2025