Cael mwy o fudd o BOSS

Angen mwy o help i ddatblygu eich busnes?

Drwy gofrestru gyda Busnes Cymru, gallwch gael gafael ar gymorth ychwanegol drwy BOSS, gan gynnwys: 

  • gweminarau byw ac ar-alw
  • canllawiau manylach ac e-ddysgu
  • cael gafael ar ymgynghorwyr busnes arbenigol

Mae gan Busnes Cymru wasanaethau gwahanol ar gyfer gwahanol gamau busnes.

Dechrau busnes?

Os ydych chi’n ystyried bod yn hunangyflogedig neu ddechrau busnes newydd, gall Busnes Cymru eich helpu chi i gymryd eich camau cyntaf.

Gallwch gael gafael ar arweiniad a chymorth ymarferol drwy’r Rhaglen Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes.

Os ydych eisoes yn gwybod eich bod am gofrestru, gallwch wneud cais yn uniongyrchol drwy lenwi’r ffurflen Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes ar y we.

Oes gennych chi fusnes yn barod?

Os oes gennych chi fusnes yn barod, mae Busnes Cymru yn darparu cymorth wedi’i deilwra i helpu eich busnes chi i ddatblygu a thyfu.

Gallwch gael gafael ar arweiniad a chymorth ymarferol drwy’r Gwasanaeth Datblygu Busnes a Thwf.

Os ydych eisoes yn gwybod eich bod am gofrestru, gallwch wneud cais yn uniongyrchol drwy lenwi’r ffurflen Datblygu Busnes a Thwf ar y we.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.