Datganiad hygyrchedd ar gyfer Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS)

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wybodaeth ar wefan BOSS a rhannau cymorth busnes arbenigol cysylltiedig o’r wefan. Mae BOSS yn wasanaeth arbenigol ar wefan Busnes Cymru.

Mae gan bob gwasanaeth arbenigol ei dudalen hygyrchedd ei hun trwy gyfrwng gwefan Busnes Cymru. Mae’n amlinellu pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol. Gallwch gyrraedd y tudalennau hyn o’r troedyn y tu mewn i dudalennau gwe’r gwasanaeth unigol.

Defnyddio’r wefan hon

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Fusnes Cymru. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Hefyd, rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml a chlir â phosibl i’w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod bod rhai rhannau o’r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch:

  • nid yw rhai tudalennau a dogfennau atodedig wedi’u hysgrifennu’n glir
  • nid yw rhai elfennau pennawd yn gyson
  • nid yw teitlau rhai tudalennau’n unigryw
  • nid yw labeli rhai ffurflenni’n unigryw
  • nid oes testun amgen da ar gyfer rhai delweddau
  • nid yw testun rhai dolenni’n disgrifio diben y ddolen

Gofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol

Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras, hawdd ei ddeall neu recordiad sain:

Bydd angen i chi ddweud wrthym:

  • cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen
  • eich cyfeiriad e-bost a’ch enw
  • y fformat yr hoffech ei dderbyn – er enghraifft, testun plaen, Braille, Iaith Arwyddion Prydain, print bras neu gryno ddisg sain
  • pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio

Gallwch ofyn am PDF mewn fformat hygyrch o’r dudalen hon. Cliciwch ar ‘Gofyn am fformat hygyrch’ i gysylltu â’r sefydliad a gyhoeddodd y ddogfen.

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod

Bydd angen i chi ddweud wrthym:

  • cyfeiriad gwe (URL) y dudalen nad ydych yn credu ei bod yn bodloni gofynion hygyrchedd
  • pam yr ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Mae Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni ffonau llinell dir a symudol ddarparu nifer o wasanaethau i gwsmeriaid ag anableddauGallwch ddefnyddio’r gwasanaeth cyfnewid testun o’ch dewis i gysylltu â BOSS.

Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod: 

Bydd angen i chi ddweud wrthym:

  • pwy ydych chi
  • sut gallwn eich helpu

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae BOSS wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfedd

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, o ganlyniad i’r achosion o beidio â chydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Mae'r cynnwys a restrir isod ddim ar gael am y rhesymau canlynol.

Mae rhai penawdau’n wag, a gall hyn amharu ar lywio i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol (maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd WCAG 2.2). Rydym ni’n bwriadu datrys hyn erbyn mis Ebrill 2027.

Nid oes gan rai dolenni ac elfennau rhyngweithiol enwau hygyrch, neu nid yw’r enw hygyrch yn cyfateb i’r label gweladwy (maen prawf llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth WCAG 2.2). Rydym ni’n bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2026.

Nid oes gan rai delweddau enwau hygyrch na thestun amgen ystyrlon (maen prawf llwyddiant 1.1.1 Cynnwys nad yw’n Destun WCAG 2.2). Rydym ni’n bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2026.

Nid yw rhai tablau yn diffinio celloedd pennyn yn gywir (maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd WCAG 2.2). Rydym ni’n bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2026.

Diffyg cydymffurfiad â rheoliadau hygyrchedd

Nid oes labeli cysylltiedig ar rai rheolyddion ffurflenni (maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd WCAG 2.2). Rydym ni’n bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2026. 

Nid yw rhai dangosyddion ffocws bysellfwrdd i’w gweld yn glir (maen prawf llwyddiant 2.4.7 Ffocws Gweladwy WCAG 2.2). Rydym ni’n bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2026.

Mae rhai priodoleddau ARIA yn cael eu defnyddio’n anghywir neu’n cynnwys gwerthoedd annilys (maen prawf llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth WCAG 2.2). Rydym ni’n bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2026.

Offer rhyngweithiol a thrafodion

Nid oes unrhyw offer a thrafodion rhyngweithiol anhygyrch hysbys ar BOSS. Os ydych chi'n credu nad yw rhai o'n hoffer a'n trafodion Rhyngweithiol yn hygyrch. Cysylltwch â ni ar un o'r ffyrdd isod: 

Bydd angen i chi ddweud wrthym:

  • cyfeiriad gwe (URL) y dudalen rydych chi'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd
  • pam nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd

Byddwn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 7 diwrnod gwaith.

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Dylai dogfennau newydd a gyhoeddwn i gael at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.

Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o’n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Er enghraifft, mae rhai ohonynt:

  • heb eu marcio mewn ffordd sy’n caniatáu i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrin eu deall
  • heb eu tagio’n gywir, er enghraifft nid ydynt yn cynnwys penawdau priodol
  • heb eu hysgrifennu mewn iaith glir

Dogfennau hanesyddol yw rhai o’r rhain nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Mae dogfennau o’r math hwn wedi’u heithrio o’r rheoliadau. Nid ydym yn bwriadu eu gwneud yn hygyrch ar hyn o bryd.

Os oes arnoch angen y wybodaeth yn un o’r dogfennau hyn, cysylltwch â ni trwy un o’r ffyrdd isod a gofynnwch am fformat gwahanol.

Bydd angen i chi ddweud wrthym:

  • cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth y mae arnoch ei hangen
  • y fformat yr hoffech ei dderbyn
  • pa dechnolegau cynorthwyol rydych yn eu defnyddio

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn cysylltu â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 15 Mawrth 2024 i ddisodli’r datganiad hygyrchedd blaenorol. Adolygwyd y datganiad ddiwethaf ar 30 Mehefin 2026. 

Sut aethom ati i brofi’r wefan

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 13 Mai 2026. Cynhaliwyd y prawf gan S8080.

Ddefnyddiodd S8080 SortSite Desktop i sganio dros 100 o’n tudalennau i weld a oeddent yn cydymffurfio â lefel A ac AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We Fersiwn 2.2. Roedd y sgan yn cynnwys cyfuniad o dudalennau craidd, templedi a ddefnyddir yn gyffredin a thempledi cymhleth.

Profwyd platfform ein prif wefan, sydd ar gael yn:

https://boss.busnescymru.llyw.cymru/

https://businesswales.gov.wales/boss/cy

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.