Case Study, Document

Gweithgaredd 3: Â phwy y byddwn yn siarad?

Is Gynradd - Galluogi disgyblion i ddarparu ar gyfer ymweliad i’r ysgol gan gynrychiolydd o fusnes lleol.

Cyhoeddwyd gyntaf: 11 Mai 2026
Diweddarwyd diwethaf: 11 Mai 2026
Download document: 20.09 KB, PDF

This file may not be fully accessible.

Amcan Dysgu 

Galluogi disgyblion i ddarparu ar gyfer ymweliad i’r ysgol gan gynrychiolydd o fusnes lleol. 

Nodweddion Entrepreneuriaeth 

Creadigedd 

  • Cyfathrebu 

Trefniadaeth 

  • Cynllunio 

Gweithgareddau dysgu 

Trafodwch y syniad(au) ar gyfer prosiect menter a gynhyrchwyd yng Ngweithgaredd 2. 

Gofynnwch y cwestiwn “Pwy allwn ni ei holi i ddarganfod mwy am ein syniad(au)?” 

Archwiliwch y posibiliadau o wahodd cynrychiolydd o fusnes lleol i ymweld â’r ysgol, trefnu ymweliad rhithwir neu drefnu ymweliad i fusnes lleol. 

Mae’r disgyblion yn paratoi cwestiynau y maent yn bwriadu eu gofyn i’r ymwelydd e.e. 

  • “Beth ydych chi’n ei wneud?” 
  • “Beth ydych chi’n ei gynhyrchu?” 
  • “Sut ydych chi’n ei wneud?” 
  • “Sut ydych chi’n ei werthu?” 
  • “Beth ydych chi’n feddwl o’n syniadau?” 
  • “Pa gyngor fuasech yn ei roi i ni?” 

Mae’r disgyblion yn cynllunio pwy fydd yn gofyn y cwestiynau a phwy fydd yn gyfrifol am gwrdd â’r ymwelydd, a phwy fydd yn diolch i’r ymwelydd ar y diwedd. 

Canlyniad dysgu 

Mae’r disgyblion yn datblygu sgiliau cynllunio syml ac yn dechrau mynegi syniad i rywun arall. 

Adnoddau sydd eu hangen 

Dim 

Cwricwlwm ar gyfer Cymru 

1. Meysydd Dysgu a Phrofiad 

Iechyd a lles 

  • Mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau a bywydau eraill. 

Dyniaethau 

  • Mae dinasyddion hunanymwybodol gwybodus yn ymgysylltu â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth ac yn gallu cymryd camau moesol ystyriol. 

2. Sgiliau Trawsgwricwlaidd 

Llythrennedd 

  • Siarad 
  • Diben 
  • Ymddiddan Cydweithredol 
  • Cwestiynu Gwrando 
  • Gwrando ar gyfer ystyr 
  • Gwrando er mwyn deall 
  • Gwrando fel rhan o ymddiddan cydweithredol 

Ysgrifennu 

  • Cynllunio a threfnu ar gyfer dibenion, cynulleidfaoedd a chyd-destun gwahanol
Download document: 20.09 KB, PDF

This file may not be fully accessible.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.